Y gobaith ydi dod â'r ddau fyd yn nes
|
Dull modern hip-hop oedd yn herio un o'n traddodiadau, barddoniaeth, ar Faes C yr Eisteddfod eleni.
Mewn clwb nos yng Nghasnewydd nos Fercher roedd rhai o feirdd Cymru yn perfformio ochr yn ochr â rapwyr y sîn roc Gymraeg.
Dyma'r tro cyntaf i'r fath ddigwyddiad gael ei gynnal yn swyddogol yn yr Eisteddfod.
Roedd un o'r rapwyr, Steffan Cravos, neu MC Sleifar, yn edrych ymlaen at y noson, "ddiddorol iawn".
"Mae'r syniad o chwarae gyda rap a barddoniaeth wedi bod ar y gweill ers peth amser.
"Ac mae'n hen bryd iddo gael statws swyddogol a gobeithio y daw hyn efo'r perfformiad yma.
"Dwi'n edrych ymlaen at herio'r beirdd - mae ganddyn nhw enw am fod yn ddiflas.
Ac roedd hi'n noson llwyddiannus gyda nifer o bobol yno.
Roedd 'na farn gymysglyd gan y gynulleidfa o ran pwy oedd fwya llwyddiannus.
Doedd hi ddim yn gystadleuaeth fel y cyfriw ond roedd y beirdd a'r rapwyr wedi cymryd y cyfan mewn ysbryd hwyliog fel y ni a nhw.
Ateb y rapwyr
Un o'r beirdd oedd yn cymryd rhan oedd Lisa Tiplady, sy'n byw yng Nghaerdydd.
"Mae'n gyfuniad o'r ddau ddull gwahanol a bydd y noson mewn tair rhan, pob rhan â thema wahanol.
"Fe fydd bardd yn siarad ac yna yn cael ei ateb gan rapiwr ar yr un thema.
"Bydda i'n defnyddio cyfuniad o hen ddeunydd a stwff newydd ar gyfer y perfformiad."
MC Saizmundo fydd un o'r rapwyr
|
Yr Academi oedd wedi trefnu'r noson yng nghlwb Whiteheads yng Nghasnewydd.
"Dyma ddigwyddiad unigryw gyda rhai o'n beirdd dinesig yn wynebu'r rapwyr sy'n dod o'n hardaloedd gwledig," meddai Lleucu Siencyn o'r Academi.
"Mae'r cyfan yn fodd i dorri'r rhwystrau rhwng y ddau ddull celfyddydol yma.
"Er bod rapio yn ddull diweddar mae MC Saismundo ac MC Sleifar yn weddol sefydlog yn y sîn yng Nghymru."
Y beirdd oedd Emyr Lewis, Grahame Davies, Lisa Tiplady ac Elinor Wyn Reynolds.
A'r rapwyr oedd Steffan Cravos (MC Sleifar), Deian ap Rhisiart (MC Saismundo) ac Aron Elias.