Cafodd y cyngerdd agoriadol ei gynnal yn y Pafiliwn nos Wener
|
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004 wedi agor ac mae disgwyl miloedd o ymwelwyr a chystadleuwyr i Barc Tŷ Tredegar dros y dyddiau nesaf.
Fe agorodd yr Eisteddfod nos Wener gyda'r seremoni agoriadol a chyngerdd oedd yn dathlu doniau'r fro.
Dyma'r ail waith i'r Eisteddfod, sy'n cael ei chynnal tan Awst 7, ymweld â'r safle yma, y tro cyntaf yn 1988.
Dydd Sadwrn oedd diwrnod cyntaf y cystadlu gyda'r bandiau pres yn atseinio ar draws y maes.
Mae'n gyfle i ymwelwyr heidio am wythnos o ddiwylliant a Chymreictod yn ne ddwyrain Cymru.
Mae'r trefnwyr yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r ddarpariaeth bysiau am ddim i'r maes o orsaf drên Casnewydd ac o ganol y ddinas.
Huw Nicholas: Dilynwch yr arwyddion
|
"Mae darpariaeth parcio yn brin ond rydym yn annog pobol i ddefnyddio'r gwasanaeth wennol," meddai'r Arolygydd Huw Nicholas o Heddlu Gwent.
"Rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau bod y traffig yn symud yn hwylus a bod pawb yn cyrraedd y maes.
"Os nad oes angen car arnoch chi gallwch ddefnyddio'r trên a'r bws sy'n rhad ac am ddim."
Ychwanegodd Hywel Wyn Edwards un o drefnyddion yr Eisteddfod ei bod hi'n bwysig fod pobol yn dilyn yr arwyddion.
"Oherwydd prinder llefydd parcio mae'n bosib y gall arwyddion ffordd gael eu newid yn ystod y dydd ac felly rydym yn annog bobol i ddilyn yr arwyddion."
Gwaddol
Dydi trefnu i gynnal yr Eisteddfod yma ddim wedi bod yn hawdd i drigolion y fro sy'n ardal eithaf Seisnig.
Ym mis Ebrill fe ddaeth hi'n amlwg bod y gronfa leol £120,000 yn brin o'r nod o £200,000 ond mae pethau wedi gwella rhywfaint.
Graham Bingham: Eisteddfod i adael ei marc
|
Ar drothwy'r Eisteddfod £80,000 yw'r diffyg.
Serch hynny, mae'r gweithwyr lleol, sydd wedi bod wrthi'n ddygn, yn ffyddiog y bydd yr Eisteddfod eleni yng Nghasnewydd yn un i'w chofio.
Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Sadwrn galwodd Graham Bingham, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Casnewydd, am i'r Eisteddfod adael ei marc ar y fro.
"Mae 'na groeso yma i Gasnewydd i bawb ac rydym fel cyngor yn falch o allu cydweithio gyda'r Eisteddfod.
"Dwi'n gobeithio y bydd pobol yn cael blas o'r Gymraeg a'r gweithgareddau Cymraeg.
"Y gobaith ydi y bydd ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal yn fodd i ehangu'r defnydd o'r iaith yn y sir ar ôl yr wythnos yma.
"Mae llwyddiant yr ysgolion yn enghraifft da ond rwan mae angen sicrhau bod yna gyfle i ddefnyddio'r iaith y tu allan mewn gwahanol weithgareddau."
Ategodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Dr R. Alun Evans, bod Eisteddfod 1988 wedi gadael gwaddol a'i fod yn gobeithio y byddai'r Ŵyl yma yn gwneud yr un fath hefyd.
Mae'r cyngor sir wedi cyfrannu £330,000 i'r Ŵyl eleni ac mae'r Eisteddfod yn falch iawn o'r rhodd.