Roedd crefftwyr i fod i arddangos eu gwaith yn yr Eisteddfod
|
Mae ffrae'n corddi am fisa crefftwr oedd am ddod i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yr wythnos nesaf.
Honnir fod Llysgenhadaeth Prydain yn Accra, prifddinas Ghana, wedi gwrthod fisa i'r cerfiwr llwyau John Karanteng.
Yn wreiddiol, roedd Cadwyn, cwmni sy'n hybu crefftau o Gymru a'r Trydydd Byd, wedi gwahodd grŵp cydweithredol o ranbarth Ashanti yn Ghana i arddangos eu gwaith yn y Brifwyl.
Dywedodd llefarydd y Swyddfa Gartref nad oedd yn gallu rhoi sylwadau ar achosion unigol ond dywedodd y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Accra nad oedd Mr Karanteng wedi rhoi digon o fanylion am ei hyrwyddwr.
Roedd yn bosib nad oedd staff yn Accra'n gwybod beth oedd yr Eisteddfod, meddai llefarydd y llysgenhadaeth.
'Anhygoel'
Os nad oedd y penderfyniad yn cael ei wrthdroi, meddai'r cwmni, byddai'n dodi arwydd ar ei arddangosfa yn yr Eisteddfod yn nodi fod y llywodraeth wedi ceisio tanseilio ymdrechion i hybu crefftau Affricanaidd.
Dywedodd cadeirydd Cadwyn, Ffred Ffransis, ei bod "yn anhygoel fod y llysgenhadaeth sydd i fod i gynrychioli Cymru yn gorfod gofyn i ŵr cyffredin o Ghana beth yw'r Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop.
"Mae gwladwriaeth fach fel Lwcsembwrg wedi ariannu rhwydweithiau cyfan o Bentrefi Crefftau yng Ngorllewin Affrica ond mae pobol Cymru yn cael eu hatal rhag helpu."
Yn gynt y mis hwn galwodd trefnwyr Eisteddfod Gydwladol Llangollen ar lywodraeth Prydain i fod yn fwy ystwyth wrth gyflwyno fisas i berfformwyr.
Tynnu'n ôl
Dywedodd trefnwyr Llangollen fod mwy o gystadleuwyr tramor wedi gorfod tynnu'n ôl o'r gystadleuaeth neu wedi cyrraedd yn hwyr oherwydd problemau fisas.
Protestiodd cantorion o'r Iwcrain, oedd i fod i gystadlu yn Llangollen, yn Llysgenhadaeth Prydain yn Kiev.
Derbynion nhw eu fisas yn y diwedd ond ni chyrhaeddon nhw'r Eisteddfod mewn pryd.