BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Gorffennaf, 2004, 06:31 GMT 07:31 UK
Gobaith i adfer Neuadd Trecelyn
Sefydliad y Glowyr, Trecelyn
Sefydliad y Glowyr: Canolbwynt bywyd yn y gymuned lofaol

Cefnogwyr Sefydliad y Glowyr a Neuadd Goffa Trecelyn sy'n dathlu ar l ennill rownd Cymru yn rhaglen Restoration y BBC.

Nos Sul cyhoeddwyd mai'r adeilad yma fydd yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol lle bydd wyth adeilad drwy Brydain yn cystadlu am arian i gael eu hadfer.

Roedd tri adeilad yng Nghymru yn gobeithio ennill.

Y ddau adeilad arall oedd Castell Aberteifi a Thloty Llanfyllin.

Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Awst 8.

Cafwyd dros 100,000 o bleidleisiau gan y cyhoedd ar gyfer yr adeiladau welwyd ar y teledu nos Fawrth.

Cefnogaeth

Mae'n bosib y gall Castell Aberteifi fynd ymlaen i'r rownd derfynol hefyd/

O ganlyniad i gefnogaeth gref mae'r adeilad ddaeth yn ail orau drwy Brydain hefyd siawns i ennill yr arian.

Castell Aberteifi
Castell Aberteifi ddaeth yn ail
Dywedodd Howard Stone, oedd yn ymwneud chais Trecelyn, ei fod yn eithriadol o hapus a balch.

"Dyma un o ddiwrnodau gorau fy mywyd," meddai.

Anogodd gefnogwyr y ddau adeilad arall yng Nghymru i gefnogi ymgais Trecelyn i sicrhau mai i Gymru y bydd yr arian yn dod.

Mae angen tua 2.94m i adfer y Sefydliad a'r Neuadd Goffa.

Roedd yr adeilad yn ganolbwynt i fywyd yn y gymuned lofaol.

Gyda'r diwydiant glo yn dirwyn i ben, mae'r adeiladau wedi bod yn segur ers rhai blynyddoedd.

Cafodd y Sefydliad ei adeiladu yn 1908 a'r Neuadd Goffa yn 1924.




HEFYD:
Cyfle i weld 'adeiladau teledu'
24 Gorff 04  |  Newyddion
Cystadlu i adfer hen adeilad
30 Ebr 04  |  Newyddion
Tri adeilad yn rownd Cymru
20 Gorff 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^