BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 25 Gorffennaf, 2004, 13:16 GMT 14:16 UK
Rhyddhau aelodau Cymdeithas yr Iaith
logo Cymdeithas yr Iaith
Cafodd 11 aelod o'r gymdeithas eu harestio

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhyddhau 11 aelod o Gymdeithas yr Iaith gafodd eu harestio ar ôl protest yng gorsaf Radio Sir Gâr yn Arberth ddydd Sadwrn.

Cafodd yr 11 eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar ôl cael eu holi am 12 awr.

Cafodd aelod o staff yr orsaf radio driniaeth yn yr ysbyty ar ôl anafu ei braich yn ystod y protestio.

Roedd aelodau'r Gymdeithas yn protestio yn erbyn safon gwasanaeth Cymraeg yr orsaf.

Mae'r Gymdeithas yn pryderu mai prin iawn ydi'r Gymraeg ar raglenni'r orsaf sy'n darlledu i sir lle mae dros hanner y boblogaeth yn Gymry Cymraeg.

Yn ôl y Gymdeithas dydi'r orsaf ddim yn "lleol" chwaith wrth iddi gael ei darlledu o sir arall, Sir Benfro.

Yn ôl y Gymdeithas, yr unig Gymraeg sydd i'w glywed ar yr orsaf yw: rhaglen nosweithiol Gymraeg o 1900-2200 BST sy'n darlledu cerddoriaeth uniaith Saesneg; hysbysebion cerddorol dwyieithog ar gyfer yr orsaf ei hun; 20 eiliad o Gymraeg ar ddiwedd bwletinau newyddion a phwt 'Welsh word of the day' mewn sir lle mae dros hanner y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.

Cafodd yr aelodau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol ac o ymosod.

Ofcom

Chafodd dim un o'r protestwyr eu hanafu.

"Mae gweithredwyr y Gymdeithas yn gwadu'n gryf eu bod wedi anafu unrhyw aelod o staff Radio Sir Gâr," meddai Hedd Gwynfor o'r Gymdeithas.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Radio Sir Benfro bod 97.1 Radio Sir Gâr wedi dewis darlledu mwy o raglenni Cymraeg eu hiaith na sy'n ofynnol yn y cytundeb gyda Ofcom sy'n rheoli gorsafoedd radio preifat.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda mentrau iaith Sir Gaerfyrddin sy'n darlledu rhaglen wythnosol ar yr orsaf," meddai Keri Jones.

"Mae'n bechod bod yr iaith Gymraeg yn cael sylw gwael yn y wasg eto oherwydd ymddygiad a gweithred pobol ifanc gwleidyddol a radical sydd wedi gwneud difrod i eiddo preifat ac sydd wedi achosi niwed i aelod o staff."

Fe fydd y protestwyr yn dychwelyd at swyddfa'r heddlu ym mis Medi.

Fe gafodd y gwasanaeth ei atal am beth amser y ystod y digwyddiad.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^