BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Gorffennaf, 2004, 09:49 GMT 10:49 UK
Arian loteri i gartref nofelydd
Cae'r Gors
Mi ddaw Cae'r Gors yn ganolfan i'r pentref
Mae dau gynllun llenyddol wedi cael hwb oherwydd addewid grant Cronfa Treftadaeth y Loteri.

Mae swm o 662,500 wedi ei glustnodi ar gyfer Cae'r Gors, cartref plentyndod un o nofelwyr a llenorion mwya Cymru, Kate Roberts, yn ogystal grant cronfa ddatblygu o 31,500.

Yn y cyfamser, mae Tŷ Newydd, y ganolfan ysgrifennu, wedi cael grant ar gyfer gwaith cadwraeth.

Mae Cyfeillion Cae'r Gors gam yn nes at sicrhau atgyweiriadau cadwraeth hanfodol i'r adeilad, y bwthyn rhestredig Gradd II yn Rhosgadfan.

Bydd mynediad gwell a bydd hi'n bosib cynnal gweithgareddau amrywiol yno.

Mi fydd rhaglen addysgol, gan gynnwys gweithdai i roi profiad byw i ddisgyblion o hanes a threftadaeth.

Straeon Poblogaidd Eraill

Yn yr adeilad bydd canolfan ddehongli amlgyfryngau fel y gall ymwelwyr ddysgu am adeiladau hanesyddol ac amgylchiadau'r cyfnod.

"Mae gennyn ni amser i gynllunio a datblygu'r prosiect ymhellach," meddai Sharon Owen o Gyfeillion Cae'r Gors.

Canolfan T Newydd, Llanystumdwy
Mae Canolfan Ty Newydd yn bwysig i awduron

"Y nod yw sicrhau fod bywyd Dr Kate Roberts, brenhines llenyddiaeth Cymru y mae ei gwaith llenyddol yn cyfleu bywyd y tyddynwr, yn cael ei gofnodi a'i ddeall yng nghyd-destun gwreiddiol ei chartref."

Bydd y grant o 250,000 i Tŷ Newydd yn golygu atgyweiriadau cadwraeth hanfodol i'r tŷ rhestredig Gradd II.

Addaswyd y tŷ yn 1945 a'i droi'n gartref ymddeol i David Lloyd George gan un o benseiri gorau Cymru'r 20fed ganrif, Clough Williams Ellis, pensaer Portmeirion.

'Ysbrydoli'

Bu Ymddiriedolaeth Taliesin yn rhedeg Tŷ Newydd fel canolfan ysgrifennu genedlaethol ers 14 blynedd.

Mae wedi cynnal sawl cwrs, yn amrywio o farddoniaeth ac ysgrifennu nofelau i ysgrifennu sgriptiau i deledu a radio.

"Bydd y grant yn ein galluogi i adfer ac adnewyddu'r tŷ hardd hwn, sydd wedi ysbrydoli ysgrifenwyr o bob math am y 14 blynedd diwethaf," meddai Sally Baker, cyfarwyddwr Tŷ Newydd.

"Mae awduron yn dal i ddod yn l i'r ganolfan i ddatblygu eu crefft yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

"Mae hi mor bwysig ein bod yn parhau'r traddodiadau llenyddol mawr yng nghanol ardal Gymraeg."




HEFYD:
Pryder am ganolfan awduron
17 Ion 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^