Enillwyr Gwobrau Menter a Busnes 2004
|
Ymysg enillwyr busnes eleni mae prif gwmni recordiau Cymru, chwarel, antur sy'n helpu rhai ag anabledd, cwmni cyfieithu a chwmni gemwaith.
Mewn seremoni wobrwyo ar lwyfan y pafiliwn yn yr Eisteddfod ddydd Llun cafodd enwau enillwyr Gwobrau Menter 2004 eu cyhoeddi.
Mae'r gwobrau yma yn cael eu rhoi yn flynyddol i gwmnïau sydd wedi gwneud eu marc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Enillydd Gwobr Menter Pobol Ifanc 2004 i berson neu grŵp o bobol ifanc sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg wrth redeg busnes llawn neu ran amser mewn modd arloesol neu arbrofol oedd Atom.
Cwmni cyfathrebu dwyieithog ydi Atom gafodd ei sefydlu gan Elliw Williams, 24 oed o Gaernarfon.
Sefydlodd Elliw Williams o Gaernarfon gwmni Atom
|
Mae'r cwmni'n gwneud gwaith marchnata a chyfieithu i brosiectau lleol a chenedlaethol.
Ei menter a'i haeddfedrwydd a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid, wrth i'r busnes dyfu'n gyson a phrynu arbenigedd i mewn lle bo angen.
Nid dyma'r wobr gyntaf iddi eisoes ennill gwobr ranbarthol Shell Live Wire i entrepreneuriaid ifanc.
Rhan o genhadaeth y cwmni yw rhoi hwb i economi'r ardal a "chodi ymwybyddiaeth o werth masnachol y Gymraeg".
Mwy na gemwaith
Enillydd Gwobr Menter Twristiaeth 2004 i gwmni twristiaeth sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg ac wedi ymrwymo at gynllun 'Naws am Le' Bwrdd Croeso Cymru oedd Rhiannon.
Rhiannon: Gwerthu ei gynnyrch ar y we
|
"Mae peryg y bydd rhaid newid yr hen ddywediad i ddweud mai Tregaron yw'r dref y tu allan i ganolfan Rhiannon," meddai'r beirniaid, sy'n arwydd o gyfraniad mawr y fenter i'r economi lleol.
Mae'r cwmni teuluol yma'n denu pobol o bell i'r siop a'r arddangosfeydd.
"Mae ein defnydd o'r Gymraeg yn dod â mantais aruthrol inni," meddai Ifan Evans, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni a sefydlwyd gan ei rieni yn ôl yn 1971.
"Yn ogystal â gwerthu trwy'r siop a'r ganolfan, mae gemwaith Cymreig Rhiannon yn cael ei werthu ar draws y byd, trwy siopau eraill, trwy'r post a'r wê.
"Fe fu datblygiad anferth wrth ymestyn y fenter gyfan rhwng 2001 a 2003, gan greu adeilad hardd a modern.
"Mae'r busnes yn cyflogi hyd at 22 yn llawn amser a rhan amser."
Chwarel ac olew
Enillydd Gwobr Menter Ardal i gwmni sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad pwysig at ffyniant economi ei ardal ydi Cware Trefigin.
Cwmni'n cloddio tywod, graean a cherrig ac yn creu cynhyrchion concrit ydi Cware Trefigin ger Aberteifi.
"Mae defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn estyniad naturiol o'n magwraeth, ein bywyd teuluol a'r gymuned yr 'yn ni'n ffodus i fod yn rhan ohoni," meddai Granville a Sheila John, y cyfarwyddwyr.
Mae gan y cwmni hefyd gwmni dosbarthu olew.
Mae'r cwmni'n cyflogi 14 o staff llawn amser a phump rhan amser gyda'r gweithwyr i gyd yn siarad Cymraeg ac mae'r holl waith papur yn Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Canmolodd y beirniaid y cwmni am ddefnyddio'r iaith mewn maes arbenigol gan gyrraedd miloedd o gwsmeriaid.
"Yn ogystal â rhoi hwb i'r economi lleol mae'r cwmni'n mynd allan o'u ffordd i gefnogi mentrau diwylliannol a chymdeithasol yn y cylch," meddai'r beirniaid.
Gwobr arbennig
Antur Waunfawr ger Caernarfon enillodd y wobr Menter Cymdeithasol a hynny am bod yr Antur yn "perthyn i nifer o gategorïau'r Gwobrau Menter, ond eto heb ffitio'n daclus i'r un ohonyn nhw".
Am hyn penderfynodd y beirniaid gyflwyno gwobr ychwanegol am y tro cyntaf erioed i gydnabod llwyddiant y fenter gymdeithasol.
Er iddi ddod yn enwog am gyflogi pobol gydag anabledd dysgu a rhoi cyfle iddyn nhw fyw bywyd llawn, mae'r Antur hefyd yn fusnes llwyddiannus iawn ac yn fenter gymunedol o bwys sy'n arloesi ym maes gwasanaethau amgylcheddol.
O'r 70 o weithwyr lleol mae 68 yn rhugl yn y Gymraeg ac awyrgylch y busnes cyfan, gan gynnwys y cyfrifon, yn Gymraeg neu ddwyieithog.
Eleni mae'r busnes yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed ac mae wedi dangos y gall menter gymdeithasol fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Cerddoriaeth
Fe aeth y wobr Menter Cenedlaethol i gwmni recordiau Sain yn Llandwrog ger Caernarfon.
Roedd Sain yn arloesi ym maes recordiau pop Cymraeg pan gafodd ei sefydlu yn 1969.
Mae'r cwmni'n dal i arloesi gyda chynnyrch adloniant, sydd bellach yn cynnwys CDau a DVDau Cymraeg, ac wedi mentro i faes newydd trwy agor dwy siop Na N'og yng ngogledd Cymru.
Mae'r siopau yn rhoi gwedd fywiog a lliwgar i gynnyrch diwylliannol Cymraeg.
Datblygiad pwysig arall yw trosglwyddo rheolaeth y busnes i genhedlaeth newydd a cheisio datblygu rhagor ar farchnadoedd tramor.
Mae'r busnes yn gwbl Gymraeg o ran ei waith masnachol a'i weinyddiaeth fewnol.
Mae'n rhoi gwaith a llwyfan i gerddorion lleol a chenedlaethol ac yn ôl y beirniaid fe fyddai'n anodd dychmygu'r byd Cymraeg heb Sain, sy'n fesur o'i gyfraniad.