Coron Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004
|
Ddydd Llun fe fydd seremoni coroni'r bardd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch.
Un fydd yn y pafiliwn yn edrych ymlaen at y seremoni ac yn gobeithio y bydd teilyngdod ydi Helga Prosser o Grughywel.
Hi sy'n gyfrifol am gynllunio a gwneud y goron eleni.
Dywedodd mai dyma'r tro cyntaf iddi wneud coron ac mae'n gobeithio ei bod wedi llwyddo i adlewyrchu'r ardal.
Mae'r goron wedi ei gwneud o ddur wedi ei asio - defnydd sy'n cael ei gysylltu a'r ardal.
"Mae'n seiliedig ar drafnidiaeth ddiwydiannol de Cymru, y rheilffyrdd, y camlesi a'r ffyrdd mewn cynllun Celtaidd," eglurodd Mrs Prosser.
Diwydiant
"O amgylch y goron dwi wedi cerfio'r geiriau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004. Gyda melfed aur y tu mewn i'r goron mae'r geiriau'n cael eu hadlewyrchu mewn melyn.
"Dyma'r tro cyntaf i mi wneud coron Eisteddfod ac mae wedi bod yn broses ddiddorol iawn sydd wedi cymryd rhai misoedd i'w chwblhau."
Mae Helga Prosser yn edrych ymlaen at y seremoni
|
Bu'n rhaid i Mrs Prosser, sy'n asio dur ar gyfer cerfluniau, gyflwyno cynllun o'r goron orffenedig i'r Eisteddfod.
"Roeddwn i'n falch iawn eu bod wedi dewis fy nghynllun.
"Fe wnes i fodel bychan o'r goron gyntaf i weld beth oedd modd ei wneud allan o ddur."
Mae'r cynllun hefyd yn adlewyrchu tirlun y de ddwyrain o ran y dyffrynnoedd a'r bryniau.
Fe fydd y goron yn cael ei chyflwyno am gerdd rydd ar y testun Egni mewn seremoni gan Orsedd y Beirdd ddydd Llun.
Heulwyn Davies, W. John Jones a Dr Eric Sturdy a'u gwragedd sy'n rhoi'r goron er cof am ffrind ac Eisteddfodwr brwd, John Nicholas Evans.
"Mae gen i fy nhocyn yn barod a mae fy mab yn dod efo fi gan nad ydw i'n gallu siarad Cymraeg er mwyn egluro beth fydd yn digwydd," meddai Mrs Prosser.
"Dwi'n edrych ymlaen a dwi'n gobeithio y bydd rhywun yn llwyddiannus ac yn ennill y goron."