Dr John Hughes oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 1988 hefyd
|
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ar groesffordd, medd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni yng Nghasnewydd.
Dywedodd John Hughes bod yr Eisteddfod yn wynebu "her" oherwydd newidiadau arfaethedig adroddiad Dr Terry Stevens.
Mae Dr Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 1988, wedi sylwi ar nifer o newidiadau mewn 16 mlynedd.
"Y boblogaeth leol a'r Eisteddfod ei hun sy wedi newid ac mae'r ardal a Chasnewydd a Gwent yn gyffredinol yn darged i'r iaith ac i'r Eisteddfod.
"Mae'r diddordeb wedi cynyddu yn yr ardal gyda mwy wedi ac eisiau dysgu'r Gymraeg fel ail iaith.
"Yn y sir mae mwy o ddiddordeb i ddysgu Cymraeg nag yn unrhyw sir arall yng Nghymru."
Oherwydd trafferthion ariannol, y posibilrwydd o ganslo'r Eisteddfod eleni a lleoliad yr ardal ger y ffin mae Dr Hughes a'r Pwyllgor Gwaith wedi wynebu her.
"Mae'r Cymry Cymraeg yn lleiafrif bach yng Nghasnewydd ac yng Ngwent.
"Ac mae problemau codi arian wedi bod ac efallai nad oedd digon o amser ganddon ni i gasglu popeth oedd ei angen.
"Criw bach o bobol sydd wedi bod yn cydweithio a thua 30 o aelodau ar y pwyllgor gwaith."
'Lle gwych'
Dywedodd nad oedd pethau'n mynd yn esmwyth bob tro ond bod pawb yn cytuno ar ôl trafod.
"Wrth gwrs, mae'n siomedig nad ydyn ni wedi cyrraedd y nod yn ariannol ond bydd rhaid gweld sut y bydd pethau'n mynd yn ystod yr wythnos.
 |
Roedd hi'n dipyn o her gan fod y Cymry Cymraeg mewn lleiafrif bach yng Nghasnewydd ac yng Ngwent
|
"Rhaid cofio bod yr Eisteddfod yn arbed arian eleni."
Mae Swyddfa'r Eisteddfod yn rhad ac am ddim a does dim Maes B fel y cyfryw. Mae'r nosweithiau yn cael eu cynnal mewn clybiau nos yn yr ardal.
"Fe fydd llwyddiant yr Eisteddfod yn dibynnu lot ar y tywydd ac mae'r safle, Parc Tredegar yn lle gwych," meddai Dr Hughes.
"Rydym yn gobeithio denu pobol yma o Loegr. Mae cymdeithas Cymry Casnewydd wedi gweithio'n agos gyda chymdeithasau Cymraeg yn Lloegr.
Ysgolion Cymraeg
"Mae pobol ochr draw i Bont Hafren, o Fryste, yn ein cefnogi ac rydym yn gobeithio y byddan nhw'n dod draw yma ym mis Awst.
"Ac mae ymdrech fawr wedi bod i ddenu'r Cymry di-Gymraeg i'r Eisteddfod."
Dywedodd fod Eisteddfod 1988 yn llwyddiant o ran denu mwy o ddysgwyr a sefydlu Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Mae mwy o ysgolion Cymraeg yn yr ardal, meddai, yn rhannol oherwydd Eisteddfod 1988.
Un o'i ddyletswyddau oedd derbyn Coron yr Eisteddfod eleni ar ran yr Wyl
|
"Dyw lot o bobol ardal yr Eisteddfod ddim yn gwybod beth ydi'r Ŵyl ac rydym wedi bod yn ceisio eu denu a'u haddysgu.
"Wrth gwrs, roedd 'na bryder am yr Eisteddfod eleni ond mae'n cael ei chynnal, mae popeth yn ei le ac rydym yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.
"Mae 'na gyfleusterau ar gael ar gyfer y rhai sydd ddim yn rhugl neu rhai sy'n ddi-Gymraeg ac rydym wedi bod yn trefnu fod y neges yn ei chyrraedd."
Ond beth fydd Dr Hughes yn edrych ymlaen ato yn ystod yr wythnos?
"Cwrdd â hen ffrindiau nad ydw i wedi eu gweld ers blwyddyn neu flynyddoedd, gweld popeth yn mynd ymlaen yn llwyddiannus, y digwyddiadau llenyddol, cerddorol, y dysgwyr, gwyddonol, celf a chrefft.
"Mae 'na rywbeth ar gyfer pawb yn yr Eisteddfod."
A beth fydd yn ei wneud ar ôl yr Eisteddfod? Bydd Dr Hughes a'i wraig ar wyliau yn Ffrainc a Sbaen, hoe y mae'n edrych ymlaen ato.