BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Gorffennaf, 2004, 15:22 GMT 16:22 UK
'Dim bwriad i fod yn amharchus'
Y Frenhines yn y sioe ddydd Mercher
Roedd y Frenhines yn y sioe ddydd Mercher

Mae'r Frenhines a Dug Caeredin wedi ymweld â'r Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Mercher fel rhan o'r dathliadau canmlwyddiant.

Ond beirniadwyd Prif Weinidog y Cynulliad am gyrraedd maes y Sioe Frenhinol yn hwyr.

Felly doedd Rhodri Morgan ddim yn gallu cyfarch y Frenhines na Dug Caeredin am ddeg y bore.

"Ry'n ni wedi cadarnhau i'r Frenhines gyrraedd yn gynnar a bod hyn wedi synnu pawb," meddai llefarydd ar ran Mr Morgan.

Dywedodd swyddogion y cynulliad fod Mr Morgan yng nghanol traffig ar ffordd brysur a bod rhaid iddo gerdded peth o'r ffordd.

'Gadael ni i lawr'

A dywedodd llefarydd ar ran y cynulliad fod hyn yn anffodus ond nad oedd unrhyw fwriad i fod yn anghwrtais i'r Frenhines.

"Mae wedi ein gadael ni i lawr unwaith eto," meddai arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS.

"Yn gynta, Normandi a rwan, mae'n ymddangos, y tro hwn."

Dywedodd taw dyletswydd Prif Weinidog y Cynulliad oedd cyrraedd digwyddiadau pwysig yn brydlon.

Hwn oedd ymweliad cyntaf y Frenhines â'r Sioe ers dros 20 mlynedd ac agorodd fynedfa newydd maes y Sioe.

Roedd y Frenhines yn Llanelwedd ar drydydd diwrnod y Sioe.

Aeth i'r neuadd fwyd lle bu'n siarad â Rachel Rowlands, stiward y sioe ac un o sylfaenwyr Rachel's Dairy yn Aberystwyth.

Cyflwynwyd Caws Eryri iddi a dywedodd Mrs Rowlands fod y Frenhines wedi ei synnu gan y cawsiau amrywiol oedd yno.

Canmlwyddiant

Y Frenhines sy'n noddi'r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, sy'n cynnal y sioe yn Llanelwedd yn flynyddol.

Aeth hi i'r Sioe yn gyntaf yng Nghaerfyrddin yn 1947 ac ar y pryd hi oedd y Dywysoges Elisabeth.

Dydd Llun roedd y Tywysog Charles, Llywydd y Sioe eleni, ar y maes ac agorodd y ganfed Sioe'n swyddogol.

"Rydym yn falch o allu croesawu dau ymweliad Brenhinol yr wythnos yma i'r Sioe," meddai David Walters, Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol.

"A hithau'n flwyddyn y canmlwyddiant mae ymweliad y Frenhines yn achlysur arbennig iawn i ni."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^