Dai Jones: Llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig
|
Mae un o gymeriadau byd amaeth a byd y cyfryngau yn dathlu iddo dderbyn anrhydedd yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Cafodd Dai Jones, Llanilar Wobor Syr Bryner Jones am ei wasanaeth i amaethyddiaeth a'i waith yn poblogeiddio materion cefn gwlad.
Mae'n gyfnod prysur i Lywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig sy'n cyflwyno rhaglenni'r sioe ar S4C Digidol.
Aeth nifer i weld Mr Jones yn cael ei anrhydeddu.
"Roedd derbyn y wobr yn f'atgoffa o'r teimlad ges i wrth ennill Cystadleuaeth y Rhuban Glas ym 1970 yn Rhydaman.
'Anhygoel'
"Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn anhygoel."
Yn gynt eleni enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i'r byd teledu yng Nghymru.
Cafodd ei wneud yn Gymrawd Coleg Prifysgol Cymru ddydd Gwener gan un o'i arwyr, Elystan Morgan.
"Roedd hwn yn brofiad eithradol," meddai.
Cychwynnodd ar y gwaith o gasglu gwartheg duon Cymreig ym 1980 pan brynodd dwy fuches, Neuadd Addawol a Neuadd Caranddu yn Llanymddyfri.
 |
Roedd derbyn y wobr yn f'atgoffa o'r teimlad ges i wrth ennill Cystadleuaeth y Rhuban Glas ym 1970 yn Rhydaman
|
Oherwydd galwadau wrth deithio ar hyd a lled y wlad yn ffilmio'r gyfres boblogaidd Cefn Gwlad trodd o ffermio llaeth i ffermio cig eidion.
"Rwy wastad wedi bod wrth fy modd gyda'r gwartheg duon ac rwy'n hynod o falch ein bod wedi eu ffermio."
Pan yw'n brysur yn y byd teledu mae ei wraig Olwen ei fab John a chynorthwy-ydd, Doug Rowbotham, yn rhedeg y fferm.
Dai Jones yw cyflwynydd Ar Eich Cais bob nos Sul ar Radio Cymru.