BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Gorffennaf, 2004, 11:38 GMT 12:38 UK
Tâl parcio'n gwylltio cystadleuwyr
Ceffylau yn y sioe
Mae rhai'n dadlau fod y gost yn ei gwneud hi'n ddrud i gystadlu yn y sioe

Mae Pwyllgor Sioe Llanelwedd yn wynebu beirniadaeth am godi tâl parcio ar loriau sydd â chyfleusterau cysgu.

Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw godi tâl ac mae nifer yn dadlau fod y gost ychwanegol yn eu gwneud hi'n ddrud i gystadlu yn y sioe.

Dywed Dewi Lewis, sydd wedi bod yn cystadlu ers bron i 30 mlynedd, fod y baich ariannol ychwanegol yn annheg.

Mae'n rhaid i'r cystadleuwyr dalu dros £12 y noson ar gyfer aros yn eu lorïau ar y maes.

Gyda'r stablau'n costio dros £15 yr un a'r dosbarthiadau'n amrywio o £10 i £28 i gystadleuwyr mae'r gost o gystadlu, yn ôl rhai, yn annerbyniol.

Ar ôl bod yn dangos mewn sioeau ar draws y wlad dyma'r cyntaf y'n ni wedi ei gael sy'n codi arian am barcio loris.
Dewi Lewis o ardal Crymych

Un o'r rhai sy'n anhapus yw Dewi Lewis o Fridfa Pant y Caws ger Crymych yn Sir Benfro.

Mae ef a'i deulu wedi cystadlu yn y sioe ers dros 30 mlynedd.

"Sa i'n deall pam fod yn rhaid talu am fynd â'r stoc i'r sioe oherwydd os na fydd stoc yn y sioe fydd dim sioe i gael," meddai.

"Ar ôl bod yn dangos mewn sioeau ar draws y wlad dyma'r cyntaf y'n ni wedi ei gael sy'n codi arian am barcio loris.

Cyfleusterau

Mae'n meddwl y bydd y penderfyniad i godi tâl yn effeithio ar y sioe yn y dyfodol.

"All pobol ddim fforddio talu tâl mynediad, pris diesel i fynd yno a'r amser a thalu hyn ar ben hynny - sa i'n gweld fod hyn yn mynd i weithio o gwbwl."

Ond dywed dirprwy gyfarwyddwr y sioe, Haydn Jones, sy'n gyfrifol am gyhoeddusrwydd y sioe, ei bod yn hanfodol codi'r tâl yma ar gystadleuwyr sy'n aros ar y maes.

"Mae gyda ni broblem gyda diogelwch iechyd ar y maes.

"Yn sicr wrth godi'r tâl yma, rydyn ni'n gallu rheoli rhyw gyfran ar hynny.

"Ry'n ni am gynyddu'r cyfleusterau sydd gyda ni ar y maes - ar gyfer toiledau a chawodydd ac yn y blaen - ac fe alla i eich sicrhau chi fod yr arian yr ydyn ni wedi ei dderbyn yn gyfan gwbwl wedi mynd at gynyddu'r cyfleusterau ar y maes.

"Ry'n ni'n gobeithio yn y blynyddoedd i ddod y byddwn ni'n gallu ehangu ar hyn eto a'i gwneud yn llawer mwy pleserus i'r bobol yma aros gyda ni dros gyfnod y sioe."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^