Y bwriad yw cynal cyrsiau garddio yn yr ardd o fis Medi
|
Bydd hwb i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o ganlyniad i gytundeb newydd gyda Choleg Sir Gār.
Dydd Mawrth fe fydd y coleg yn cyhoeddi y bydd yn cynnal cyrsiau garddio yn yr atyniad yn Llanarthne o fis Medi.
Mi fydd y cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau tra'n cefnogi a gweithio gyda staff yn yr ardd.
Fe fydd manylion y cytundeb yn cael eu cyhoeddi'n swyddogol yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Mae Rob Taylor, darlithydd garddio yng Ngholeg Sir Gār, wedi croesawu'r cyfle i gryfhau cysylltiadau gyda'r ardd.
"Yn y pen draw, dwi'n credu y byddwn ni'n mynd o nerth i nerth," meddai.
"Bydd addysg mewn garddio yng Nghymru yn tyfu a bydd hyn yn ei dro yn golygu y bydd pobol ifanc yn gallu, gobeithio, gweithio mewn busnesau a fydd yn helpu Cymru hefyd."
Dywedodd Rhodri Griffiths, rheolwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ei fod yn falch o gael ffurfio partneriaeth gyda'r coleg.
"Dyma enghraifft wych o'r cyfleoedd addysgol y mae'r ardd yn eu cynnig," meddai.
Yn gynharach eleni cafodd yr ardd ei hachub wedi iddi ddioddef problemau ariannol difrifol.
Mae'r cytundeb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn cynnwys £300,000 yr un gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Comisiwn y Mileniwm a Llywodraeth y Cynulliad.