Mae argymhelliad i addasu'r rheol Gymraeg mewn perthynas â'r pafiliwn
|
Mae Cylch yr Iaith wedi anfon llythyr at bob aelod o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol yn eu hannog i wrthod unrhyw ymgais i newid y rheol Gymraeg.
Ond mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, wedi beirniadu llythyr Cylch yr Iaith a dweud nad oes bwriad i newid y rheol.
Mae Cylch yr Iaith yn cyfeirio at ddogfen yr Eisteddfod oedd yn ymateb i adroddiad Dr Terry Stevens ar ddyfodol y Brifwyl.
Yn y ddogfen Y Ffordd Ymlaen mae argymelliad i addasu'r rheol Gymraeg o ran cynnig gwybodaeth i ymwelwyr y pafiliwn mewn ieithoedd eraill.
Mae argymhelliad i ddefnyddio tywyswyr ar y Maes i roi gwybodaeth i'r di-Gymraeg.
Dywedodd Cylch yr Iaith, sydd wedi ceisio cyngor cyfreithiol, na ellid newid y rheol Gymraeg am y byddai hynny'n groes i gyfansoddiad y Brifwyl.
Cyfansoddiad
"Dydi o'n gwneud dim byd efo addasu a symud efo'r oes," meddai Ysgrifennydd Cylch yr Iaith, Ieuan Wyn.
"Mae hyn yn newid sylfaenol yn hanfod yr Eisteddfod.
"Mae pawb yn croesawu datblygu ac esblygu..ond mae hyn yn newid natur yr Ŵyl.
"Mae'r Eisteddfod wedi ei seilio ar yr egwyddor yma o fod yn ŵyl ddiwylliannol Gymraeg.
"Allwch chi ddim symud oddi wrth hynny heb ddinistrio'r Eisteddfod fel yr ydym ni'n ei hadnabod heddiw."
Dywedodd nad oedd yn bosib i Lys yr Eisteddfod ei dderbyn a dyna pam yr oedd y mudiad yn ceisio barn gyfreithiol ar y mater.
"Mae o ymhlyg yng nghyfansoddiad yr Eisteddfod...na ellir newid y rheol Gymraeg dan unrhyw amgylchiad.
"Roedden ni'n teimlo ei bod yn hanfodol ein bod yn tynnu sylw at hynny."
Ers cyhoeddi Y Ffordd Ymlaen yn Chwefror mae swyddogion yr Eisteddfod wedi trafod yn fanwl rai o'r argymhellion.
Ieithoedd eraill
Dywedodd Mr Roberts nad yr hyn oedd yn y ddogfen o angenrheidrwydd fyddai'n cael ei argymell i Lys yr Eisteddfod.
"Does yna ddim bwriad i newid y rheol iaith a dyna pam dwi wedi fy synnu gymaint fod Cylch yr Iaith wedi anfon llythyr, nid yn unig atom ni, ond at bob aelod o'r Llys.
"Pe bai Cylch yr Iaith wedi dod atom ni i gael trafodaeth, mi fysen ni wedi dweud wrthyn nhw nad ydi hi'n fwriad o gwbwl gennym ni i newid y rheol iaith.
"Mae rheolau ynglŷn â stondinau ar y Maes yn dweud yn glir, ac mae hon yn rheol sydd wedi ei sefydlu ers diwedd yr 1980au, fod rhaid i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n bennaf y tu allan a thu mewn i bob stondin ond bod 'na ryddid i ddefnyddio ieithoedd eraill.
"Felly dydi o ddim yn newid y rheol iaith o gwbwl."
Dywedodd Cylch yr Iaith eu bod yn erbyn newidiadau i awdurdod Llys yr Eisteddfod.
Mae'r mudiad wedi gofyn i aelodau'r llys, dros 2,000 i gyd, gefnogi cynnig mewn cyfarfod arbennig yn yr hydref yn galw am ohirio unrhyw benderfyniad ar y ddogfen Y Ffordd Ymlaen nes bydd Cyngor yr Eisteddfod yn cyflwyno argymhellion fydd, medden nhw, yn dilyn y rheol Gymraeg a diogelu awdurdod y llys.