BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Gorffennaf, 2004, 10:30 GMT 11:30 UK
Colli un o'r hoelion wyth
Dr Emrys Evans
Colled fawr: Dr Emrys Evans wedi marw
Bu farw Dr Emrys Evans yn 80 oed.

Fe oedd cadeirydd bwrdd rheoli Sioe Amaethyddol Cymru, cyn-lywydd a chyn gadeirydd pwyllgor cyllid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yn amlwg mewn nifer o elusennau Cymreig.

Fe oedd un o ymddiriedolwyr elusen Arch Noa, yr elusen oedd am sefydlu ysbyty plant i Gymru.

Yn yr wythdegau Dr Evans oedd pennaeth Banc y Midland a chymerodd ran yn hysbyseb gyntaf S4C, sef un y banc.

Cafodd ei eni ar fferm fach yn Sir Drefaldwyn.

Mae'n chwith meddwl yr wythnos yma fod y Sioe Fawr yn cael ei chynnal ac Emrys ddim yn bresennol
Y Parchedig Ddoctor Alun Tudur

Roedd Emyr Pugh Jones, gafodd ei fagu ar fferm gyfagos, yn gyfaill ers dyddiau ei febyd.

"Mae hon yn golled fawr i'r Sioe Amaethyddol.

"Roedd y sioe yn bwysig iawn iddo ac roedd ei gyfraniad i'r sioe yn enfawr.

"Roedd yn gadeirydd ers blynyddoedd ac mae hon yn golled nid yn unig i'r sioe ond i Gymru'n gyffredinol."

Dechreuodd Dr Evans ei yrfa yn y banc yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac yn y pen draw daeth yn bennaeth Banc y Midland yng Nghymru.

Rhyfel

Treuliodd gyfnod y rhyfel yn y Llynges, ac roedd yn sgowt ar arfordir Ffrainc adeg D-Day.

Wedi'r rhyfel ailgydiodd yn ei yrfa yn y banc a geithio yng Nghymru a Llundain.

...roedd tir Trefaldwyn yn ddwfn iawn yn ei wythiennau ond roedd yn ŵr y diwylliant a'r economi Gymreig
Dafydd Whittall, Is-Gadeirydd Cyngor Eisteddfod

Yn y broses o Gymreigio'r banc chwaraeodd ran amlwg, gan gynnwys darparu sieciau Cymraeg.

Roedd yn llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dair blynedd a daeth yn Ddoethur yn y Cyfreithiau er Anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1983.

Am 14 blynedd roedd yn gadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe.

"Rwyn cofio fe gynta yn y banc," meddai Hugh Richards, cyn bennaeth yr NFU yng Nghymru.

"Roedd yn ddyn oedd yn meddwl y byd o ffermio ac roedd ffermio yn rhan fawr o'i fywyd e."

'Cymwynaswr'

Dywedodd Dafydd Whittall, Is-Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod fod ei farwolaeth yn golled enfawr.

"Rydan ni wedi colli un o'r bobol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus yng Nghymru," meddai.

"Gŵr o Sir Drefaldwyn oedd Dr Emrys Evans ac roedd tir Trefaldwyn yn ddwfn iawn yn ei wythiennau ond roedd yn ŵr y diwylliant a'r economi Gymreig.

...mae hon yn golled nid yn unig i'r sioe ond i Gymru'n gyffredinol
Emyr Pugh Jones

"Roedd yn ŵr y bobol ac yn llawn hiwmor ond anghofiodd o erioed y gwreiddiau yr oedd yn dod ohonyn nhw."

A dywedodd y Parchedig Ddoctor Alun Tudur, gweinidog Capel Ebeneser yng Nghaerdydd, fod Dr Evans wedi gwneud cyfraniad mewn sawl maes.

"Roedd Emrys yn gymeriad mawr ac yn ŵr arbennig iawn.

"Ac roedd yn gymwynaswr mewn gymaint o wahanol gyfeiriadau, wedi cefnogi llawer o elusennau - Barnardos, Tenovus, ysbyty plant Cymru.

"Roedd yn Gristion ac yn weithgar efo'r Sioe Amaethyddol.

"Mae'n chwith meddwl yr wythnos yma fod y Sioe Fawr yn cael ei chynnal ac Emrys ddim yn bresennol," meddai.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^