BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Gorffennaf, 2004, 12:30 GMT 13:30 UK
Agor canfed Sioe Fawr
arwydd
Mae disgwyl y bydd dros 200,000 yn ymweld â'r sioe eleni
Mae'r Sioe Fawr, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant, wedi agor yn Llanelwedd ddydd Llun.

Am bedwar diwrnod mae'r sioe, a ddechreuodd yn Aberystwyth yn 1904, yn denu dros 200,000 o ymwelwyr.

Eto roedd cwmwl o dristwch dros y diwrnod agoriadol wedi i fachgen 16-oed o Ogledd Cymru gael ei anafu'n ddifrifol mewn damwain ffordd yn Llanelwedd.

Y Tywysog Charles agorodd y sioe a dywedodd y dylai plant ysgol gael gwersi coginio yn yr ysgol.

"Pam ar y ddaear na allwn ni ddysgu gwyddor cartre fel y gall disgyblion ddysgu sut i goginio a dysgu am fwyd?" gofynnodd.

Dywedodd fod gormod o bwyslais ar safonau glanweith-dra.

ywysog Charles
Charles: 'Angen gwersi coginio ar blant'

Ar y diwrnod cyntaf roedd Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, y Gweinidog Iechyd, Jane Hutt, a'r Gweinidog Cefn Gwlad, Carwyn Jones, yn y Sioe Fawr.

Yn gynt roedd roedd galw am ddileu'r rheol oedd yn gwahardd cig gwartheg dros 30 mis oed rhag mynd i'r gadwyn fwyd.

Cafodd y rheol ei chyflwyno oherwydd cynnydd yn nifer achosion BSE.

Galwodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Rees Roberts, ar Lywodraeth San Steffan i ddileu'r rheol unwaith ac am byth.

"Mae pawb erbyn hyn wedi penderfynu fod y cig yn saff i fynd i'r gadwyn fwyd ac yn saff yn ôl diffiniad yr Asiantaeth Safonau Bwyd," meddai.

"Felly does yna ddim problem ac mae'r llywodraeth yn San Steffan yn simsanu am ddim rheswm."

Gostwng

Mae disgwyl ymateb Llywodraeth San Steffan cyn diwedd yr wythnos.

Cafodd cig gwartheg dros ddwyflwydd a hanner oed ei wahardd rhag mynd i'r gadwyn fwyd wyth mlynedd yn ôl.

Y nod oedd amddiffyn pobol rhag bwyta cig allai fod wedi ei heintio â BSE.

Ond erbyn hyn mae nifer achosion yr haint wedi gostwng o 37,000 yn 1992 i ychydig o gannoedd.

Dywedodd Mr Rees nad oedd yn hyderus y byddai'r gwaharddiad yn cael ei godi.

Yn y cyfamser, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Cymru, David Walters, fod llawer o bethau i ddenu'r torfeydd.

"Un o uchafbwyntiau rhaglen y prif gylch yw gorymdaith yn cynrychioli 100 mlynedd o fywyd gwledig Cymreig.

"Mae 1,000 o bobol yn cymryd rhan ac mae hyn yn digwydd bob diwrnod."

Arddangosfa

Cynhelir arddangosfa o baentiadau, lluniau a cherfluniau artistiaid Cymreig ers canrif a bydd hon yn teithio drwy Gymru yn hwyrach yn y flwyddyn.

"Galla i sicrhau pawb y bydd Sioe Fawr 2004 yn ddigwyddiad na ddylid ei golli," ychwanegodd Mr Walters.

Cafwyd mwy nac erioed o geisiadau da byw eleni, gyda 7,500 o anifeiliaid yn ymgeisio mewn 1,200 o ddosbarthiadau.

Mae cyfle i ymwelwyr weld am y tro cyntaf y fynedfa gerrig newydd a godwyd i nodi'r canmlwyddiant.

Er iddi gael ei sefydlu yn 1904, teithio o gwmpas fu'r Sioe nes iddi fynd i Lanelwedd yn 1963.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^