Elfed Roberts: 'Cymru'n dlotach heb yr Eisteddfod'
|
Bythefnos cyn y Brifwyl mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud fod dyfodol yr ŵyl mewn perygl oherwydd trafferthion ariannol parhaus.
Dywedodd Elfed Roberts y byddai'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau grant craidd i'r Eisteddfod.
Yn flynyddol mae'r Brifwyl yn rhedeg ar golled o tua £100,000 oherwydd toriad yng ngrant canolog Bwrdd yr Iaith.
Mae'r Eisteddfod yn costio tua £2.5m y flwyddyn.
Ffactorau eraill, meddai, oedd costau ychwanegol rheolau iechyd a diogelwch, nifer isel ymwelwyr Eisteddfod Dinbych yn 2001 oherwydd argyfwng clwy traed a'r genau, ac effaith y tywydd yn Nhyddewi yn 2002.
"Mae gyda ni gyfarfod ym mis Medi gyda'r Gweinidog Diwylliant Alun Pugh i drafod arian," meddai Mr Roberts.
'Torri'r gwasanaeth'
"Mae'n rhaid i ni sortio'r broblem eleni oherwydd dydan ni'n methu cario ymlaen fel hyn."
Dywedodd y byddai'n fodlon pe bai Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno i grant craidd rhwng £460,000 a £480,000 y flwyddyn.
Byddai'r arian yn cyfateb i'r hyn yr oedd yr Eisteddfod yn ei dderbyn rhwng 1978 a 1997 oddi wrth y Swyddfa Gymreig ac yna Bwrdd yr Iaith.
"Gobeithio y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi'r arian i ni.
"Fedra i ddim eu gweld nhw'n gwrthod.
"Os na fydd mwy o arian yn dod, bydd yn rhaid torri'r gwasanaeth neu bydd rhaid gwneud toriadau staffio.
"Ugain o bobol sy'n gweithio i'r Eisteddfod ar hyn o bryd.
"Fe fyddai Cymru'n dlotach heb yr Eisteddfod - mae'n lle arbennig i arddangos ein talentau mewn sawl maes.
"Eleni yng Nghasnewydd bydd dros 300 o fusnesau a sefydliadau â stondinau yno," meddai.
Mae'r Brifwyl yn dechrau gweithredu rhai o argymhellion Adroddiad Stevens.
Ers cyflwyno'r adroddiad yn Nhachwedd 2003, mae'r Eisteddfod wedi dechrau cyflwyno newidiadau, gan gynnwys gosod bar ar y Maes yng Nghasnewydd a threfnu tywyswyr aml-ieithog.
Dywedodd Mr Roberts na fyddai dileu'r tri chorff ELWa, Bwrdd Croeso Cymru a'r Awurdod Datblygu yn effeithio ar sefyllfa'r Eisteddfod.
"Ry'n ni'n derbyn y grant craidd gan y Bwrdd Iaith ac mae dyfodol y bwrdd yn iawn am nawr am wn i," meddai.
Mae swyddfa'r Eisteddfod yn cyflogi 20 o bobol
|
Dywedodd nad oedd yr Eisteddfod wedi derbyn grantiau gan y cyrff hyn ac mai prynu gwasanaethau yr oedd y Bwrdd Croeso, ELWa a'r Awdurdod Datblygu.
"Mae gwerth yr arian yn amrywio bob blwyddyn - does dim presenoldeb gan ELWa eleni na llynedd tra bydd Bwrdd Croeso Cymru â phresenoldeb ar y Maes.
"Ond ni fyddan nhw'n noddi dim.
"Mae'r Awdurdod yn bresennol drwy ei hasiantaethau ac maen nhw noddi'r gystadleuaeth Gwyddoniaeth Dyfeisgarwch.
'Ddim yn fygythiad'
"Ac mae'r cyrff hyn yn gwneud eu penderfyniadau ar sail fasnachol ac nid ar sail cefnogaeth.
"Dyw hyn ddim yn fygythiad i ni."
Dywedodd fod yr Eisteddfod yn rhoi "chwistrelliad i'r iaith" a'i bod yn hyrwyddo diwylliant Cymreig a'r celfyddydau boed yn amatur neu'n broffesiynol.
"Mae'n codi proffil y Gymraeg ac yn codi proffil yr ardal y mae'n ymweld â hi.
"Yn sicr, fe gafodd Maldwyn sylw oherwydd yr Eisteddfod ym Meifod."
Ond yr her i'r Brifwyl, meddai, oedd sicrhau grant craidd, llwyddo i ddenu cynulleidfa ehangach ac iau a'i throi'n ddigwyddiad i bobol Cymru beth bynnag eu hiaith.