|
Nia Thomas
Gohebydd Materion Cefn Gwlad BBC Cymru
|
Mae disgwyl dros 200,000 i'r Sioe Amaethyddol
|
Wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant, mae trefnwyr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn gobeithio mai sioe eleni fydd y fwyaf a'r orau erioed, ond er y llwyddiant dydy'r prif weithredwr ddim o blaid ehangu'r maes.
Mae'n debyg y bydd cost llwyfannu achlysur eleni yn agosáu at £2m ac mae disgwyl dros 200,000 o bobol i ymweld â'r maes dros y pedwar diwrnod.
Eisoes mae'r ymateb gan arddangoswyr da byw wedi bod yn wych gyda 7,500 yn cystadlu.
"Mae yna 41 o fridiau defaid yma - mwy o fridiau nag y gwelwch chi mewn unrhyw sioe arall yn Ewrop," eglura David Walters, prif weithredwr y Sioe.
"Mae hynny'n golygu tua 2,900 o ddefaid - a'r broblem yn adran y defaid felly ydi cael llety ar eu cyfer nhw. Dyma'r nifer mwyaf rydan ni erioed wedi ei gael."
Ehangu
Yn adrannau'r gwartheg, moch a geifr mae'r niferoedd hefyd ar i fyny - gan gynnwys y gwartheg duon Cymreig sy'n dathlu canmlwyddiant eu cymdeithas hwythau eleni.
Ar yr ochr fasnachol mae'r maes yn orlawn gyda mil o stondinau.
Cymaint ydi'r galw am le fel bod rhestr aros o 200 o gwmnïau.
Felly, a hithau yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, ydi hi'n bryd i Gymdeithas y Sioe ystyried ehangu'r maes?
'Mae modd gwella a datblygu'r maes sydd ganddon ni'
|
Dydi Mr Walters ddim o blaid hynny.
"Mae nifer yn sôn y dylen ni ystyried gwneud y maes yn fwy ond dwi ddim yn credu y byddai hynny yn beth doeth.
Mae yna ysbryd arbennig i Sioe Llanelwedd a dwi'n ofni y gallen ni golli'r naws arbennig hwnnw pe bai ni yn gwthio'r ffiniau.
"Mae modd gwella a datblygu'r maes sydd ganddon ni.
"Ac eleni mae yna fynedfa newydd sbon ac adeilad newydd ar gyfer y cneifio," meddai.
Ymwelaid brenhinol
Mae yna gynlluniau ar y gweill, hefyd, i godi canolfan canmlwyddiant
gwerth £6m.
Ond fydd y gwaith ddim yn dechrau hyd nes bydd yr arian i gyd yn y coffrau.
Bydd dau ymweliad brenhinol yn coroni'r cyfan eleni - Tywysog Charles yn agor y Sioe yn swyddogol ar y dydd Llun yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Cymdeithas y Sioe ar gyfer 2004 ac yna'r Frenhines a Dug Caeredin yn ymweld â'r maes ar y dydd Mercher.
Un o'r uchafbwyntiau yn y prif gylch fydd gorymdaith yn olrhain hanes amaethyddiaeth yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Am saith o'r gloch bob nos bydd tua 1,000 o bobol yn rhan o'r arddangosfa fydd yn cynnwys da byw, hen beiriannau a thractorau, dawnswyr a chorau.
Mae'r orymdaith yn dipyn o her oherwydd na fydd modd ymarfer y cyfan tan y dydd Sul ar drothwy'r Sioe.
Union 100 mlynedd ers y sioe gyntaf yn Aberystwyth, mae'r byd ffermio a chefn gwlad wedi gweld newidiadau mawr.
Bod yn hyblyg ar gyfer y dyfodol ydi neges prif weithredwr y Sioe ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
"Mae'n rhaid newid y sioe fel mae'r gofynion yn codi," medd Mr Walters.
"Er enghraifft, mae ganddon ni adran cefn gwlad erbyn hyn sy'n hynod o boblogaidd."
Ond, dywed, wrth arbrofi gyda syniadau newydd, y bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn barod i gael gwared â rhai pethau hefyd.
"Ond eleni dwi'n gobeithio y bydd ffermwyr, pobol cefn gwlad a'r trefi - achos maen nhw'n bwysig hefyd - yn dod i fwynhau a dathlu can mlynedd o ffermio yng Nghymru."
Dim ond un peth sydd ei angen rwan i sicrhau dathliad teilwng - llond cau o heulwen.