Ar Fawrth 1, 1999, y cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol gynta Cydymaith Byd Amaeth, casgliad rhyfeddol o ymadroddion a dywediadau llafar gwlad.
"...mae'n amlwg," meddai Huw Jones yr awdur "mai'r Cymry a aned yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif fydd y rhai olaf i wybod ystyr llawer iawn o eiriau ac ymadroddion ffermio ddoe, ac i'w defnyddio'n ystyrlon.
"Erbyn hyn mae llawer o'r iaith hon yn ddieithr, hyd yn oed i feibion a merched ffermydd.
"Ac eto mae rhai o'r geiriau'n mynd i aros, yn enwedig yn eu hystyr ffigurol, a hynny heb fawr neb yn ymwybod â'u cynefin amaethyddol gwreiddiol."
Adran ddiddorol
Yn ei gampwaith mae'r awdur yn cyfeirio at sŵn galw gwartheg a dyma'r geiriau gwahanol:
Trw'i, trw hop (Maldwyn);
Trwboch, twboch-twboch (Môn);
Trwy, trwy, trwy bach-trwy bach (Sir Gaerfyrddin);
Prwy, pytrw, prwdi;
Swc swc-swc.
Beth yw'r gair yn eich hardal chi? Anfonwch nhw at Cymru'r Byd ac fe wnewn ni eu cyhoeddi.
Diolch i'r awdur Huw Jones ac i Wasg Carreg Gwalch, Llanrwst, am eu help a'u caniatâd.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Dyma'ch ymateb:
Twei-twei-twei (galw gwartheg)
Rosemary Tudor, Aberystwyth, Ceredigion
Yn ôl fy nain, a fagwyd yng Nghwm Cynllwyd ar y ffin rhwng Meirionnydd a Maldwyn, fe fyddai hi'n arfer galw "dybowch, dybowch" ar y gwartheg.
Elin, Llanuwchllyn, Meirionnydd
Rwyf yn byw ar fferm Graianog, Llanllyfni, sydd ar y ffin rhwng Arfon a Dwyfor, rhwng ardal Dyffryn Nantlle ac Eifionydd. Rydyn ni'n galw ar ein gwartheg ni drwy weiddi "bowch, bowch bowch".
Guto Rhys Huws, Caernarfon, Gwynedd
Fel Ynys Môn ond heb y "Trw". "Boch, Boch-Boch".
Trefor Williams, Trefor, Caernrafon, Gwynedd
"Cyhow", cyhow" a "Gis, gis, gis" wrth alw'r gwartheg. Mi ddywedodd fy nhad wrthyf bod "gis" yn tarddu o'r Fasgeg, iaith trigolion brodorol mynyddoedd y Pyreneau rhwng Sbaen a Ffrainc.
Huw Roberts, Treuddyn, Sir y Fflint
I alw'r gwartheg ar y fferm yn Llangynog byddem yn dweud, "dy howb, dy howb, dy howb".
Maldwyn Morris, Llangynog, Maldwyn
Bydden ni'n gweiddi "twei, twei, twei" i alw'r gwartheg atom ond "how" i'w danfon nhw bant. "Swc,swc,swc" fydden i'n galw ar y lloi.
Haydn Lewis, Llanbed, Ceredigion
Flynyddoedd yn ôl bûm yn byw ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin. Yno sylwais i fod yr amaethwyr lleol yn galw'r gwartheg fel hyn: Twei, Twei. Twei, Twei.
Sion Jones, Abergele