Cafodd corff Lynette White ei ganfod wedi cael ei drywanu
|
Flwyddyn ar ôl i ddyn gael ei garcharu am oes am lofruddio'r butain Lynette White yn 1988, mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio beth aeth o'i le yn yr ymchwiliad gwreiddiol.
Yn ôl swyddogion maen nhw'n dod â "soffistigedigrwydd 2004" i'r ail-ymchwiliad.
Mae 26 o swyddogion yn dal i weithio'n llawn amser ar yr achos o gamweinyddu cyfiawnder.
Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio ac mae disgwyl mwy.
Cafodd Ms White, a oedd yn 20 oed, ei llofruddio mewn fflat uwchben siop fetio yn ardal Trebiwt o Gaerdydd ar ddydd San Ffolant ac fe ddaeth yr achos yma un o'r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder.
Cafodd Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, Tri Caerdydd, eu carcharu am ddwy flynedd yn 1990 cyn cael eu ryddhau ac ym mis Gorffennaf 2003 fe dderbyniodd y tri ymddiheuriad llawn gan Brif Gwnstabl Heddlu'r De ar ôl i ddyn arall gael ei garcharu am y llofruddiaeth.
Fe wnaeth Jeffrey Gafoor, 38 oed o Lanharan gyfaddef i ladd Ms White ar ôl cael ei ddal drwy brawf DNA newydd.
Cafodd Ms White ei thrywanu dros 50 o weithiau gan Gafoor ar ôl iddo newid ei feddwl ynglŷn â thalu am ryw.
Flwyddyn ers iddo gael ei garcharu mae'r prif gwnstabl cynorthwyol, Stephen Cahill, yn benderfynol o "ddod at wraidd yr hyn a ddigwyddodd yn yr ymchwiliad gwreiddiol a pham".
"Rydym yn benderfynol o weld yr ymchwiliad yma yn dod i ben yn llwyddiannus," meddai Mr Cahill.
Llwyddiant
"Mae'n cael ei gynnal gyda'r un math o adnoddau ac ymroddiad y byddech chi'n ei disgwyl ei gael mewn ymchwiliad i lofruddiaeth heddiw ac rydym yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael o dechnoleg i seicoleg i ymdrin gyda'r achos mewn modd effeithiol a proffesiynol.
"Rydym wedi dod â soffistigedigrwydd 2004 i ymchwiliad 16 oed.
Tystiolaeth DNA wnaeth ddal Jeffrey Gafoor
|
"Mae 'na lwyddiant eisoes wedi dod wrth i Gafoor gael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Lynette White ac rydym yn parhau i weithio gyda'r un dygnwch i ateb cwestiynau sydd heb gael eu hateb o hyd."
Yn ystod y 10 mis diwethaf ers i'r ymchwiliad o'r newydd edrych yn fanwl ar yr hyn a ddigwyddodd yn 1988 mae 100,000 o dudalenau o wybodaeth wedi cael eu hail ymchwilio a 155 o ddatganiadau newydd wdi cael eu gwneud.
Mae Gafoor ymhlith y tystion, dioddefwyr a'r rhai o dan amheuaeth sydd wedi cael eu cwestiynu.
Cafodd ffeiliau ar 11 o bobol sydd wedi cael eu harestio am wyrdroi cwrs cyfiawnder ac anudon eu cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron.
Yn ôl yr heddlu gall yr 11 fod yn destun ymholi pellach.
Mae disgwyl i fwy o bobol gael eu harestio yn ddiweddarach eleni.
Mae Tri Caerdydd, gafodd eu carcharu ar gam, yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddara yn yr achos.