British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mehefin 2004, 05:38 GMT 06:38 UK
Dathlu'n Parciau Cenedlaethol

Parc Cenedlaethol Eryri
Eryri ydi un o dri Parc Cenedlaethol yng Nghymru

Yng Nghymru mae 'na dri Pharc Cenedlaethol ac mae 20% o dir Cymru yn dod o fewn eu ffiniau.

Ar ddechrau wythnos gyntaf y Parciau Cenedlaethol mae 'na arolwg newydd yn dangos bod 'na gefnogaeth gref i'r parciau yng Nghymru.

Mae mwy o dir Cymru yn rhan o Barc Cenedlaethol na'r amcangyfrif drwy Brydain.

"Asedau gwerthfawr gwerth eu gwarchod" dyna ydi teimladau 95% o'r cyhoedd am ein Parciau Cenedlaethol.

Yng Nghymru mae Parc Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Mae'r nifer yma o bobol gafodd eu holi ar gyfer yr arolwg yn credu bod angen gwarchod y parciau rhag datblygiadau anaddas.

Cafodd y Parciau Cenedlaethol ym Mhrydain eu sefydlu yn 1949 o dan ddeddf seneddol.

Hanfodol

Diben y parciau oedd gwarchod a gwella harddwch naturiol cefn gwlad ac annog hamdden awyr agored.

"Dyma ddeddf fwyaf cyffrous y Senedd wedi'r rhyfel," meddai'r Gweinidog Cynllunio Gwlad a Thref ar y pryd, Lewis Silkin.

Yn ôl yr arolwg mae 'na gynnydd ers 2001 o 12% hefyd yn y nifer o bobol all enwi un o 13 Parc Cenedlaethol Prydain.

PARCIAU CENEDLAETHOL PRYDAIN
Peak Distric (1951)
Ardal y Llynnoedd (1951)
Eryri (1951)
Dartmoor (1951)
Arfordir Penfro (1952)
Rhosydd Gogledd Efrog (1952)
Yorkshire Dales (1954)
Exmoor (1954)
Northumberland (1956)
Bannau Brycheiniog (1957)
Llynnoedd Norfolk a Suffolk (1988)
Loch Lomond a'r Trossachs (2002)
Cairngorms (2003)

Y Parc Cenedlaethol enwocaf ym Mhrydain ydi Ardal y Llynnoedd gydag Eryri yn dod yn drydydd ar ôl y Peak District a'r cyntaf yng Nghymru.

"Mae Parciau Cenedlaethol yn hanfodol o ran gwarchod ein tirweddau gorau i genedlaethau a ddaw, y cyfleoedd maent yn eu darparu ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhad a'r gwerth economaidd sy'n dod yn sgil hyn," meddai Meirion Thomas, Cadeirydd Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru.

"Mae'r arolwg newydd yma yn dangos cefnogaeth gref i'n parciau cenedlaethol a bod pobol yn gwybod amdanyn nhw.

"Dyma dirweddau hardd sy'n perthyn i bawb ohono, yn drefol neu faestrefol ein bywydau."

Mae nifer o enwogion fel Bryn Terfel ac Aled Jones wedi dangos eu cefnogaeth i'r Parciau Cenedlaethol hefyd.

I weld be ydi barn rhai o'r enwogion cliciwch yma.

Dros Wythnos y Parciau Cenedlaethol (Gorffennaf 1-9) mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu i ddathlu'r achlysur.

"Dyma gyfle i'r cyhoedd brofi a mwynhau a darganfod mewn rhai achosion, y trysorau cenedlaethol amhrisiadwy," meddai Mr Thomas.



HEFYD
Barn enwogion am y parciau
30 Meh 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific