BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mehefin, 2004, 21:05 GMT 22:05 UK
Ailagor Castell Aberteifi
Castell Aberteifi
Mae Castell Aberteifi yn dyddio'n ôl i'r 12fed Ganrif

Cafodd Castell Aberteifi ei agor i'r cyhoedd ddydd Mercher.

Rhan yw hon o gynllun i adfer yr adeilad a chychwyn yr ŵyl flynyddol, Gŵyl Fawr Eisteddfod.

Mae ymgyrchwyr eisoes yn paratoi i adfer yr adeilad a oedd yn gartref i'r Eisteddfod gyntaf.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r adeilad wedi bod ar gau i bobol y dref.

Cafodd y castell ei brynu gan y cyngor sir yn ddiweddar ar ôl iddo ddechrau dadfeilio.

Bellach mae'r adeilad yn un o dri sydd wedi cael eu dewis drwy Gymru i gystadlu yn y rhaglen Restoration ar BBC 2.

Y ddau adeilad arall ydi Sefydliad y Glowyr yn Nhrecelyn, Sir Caerffili, a hen dloty yn Llanfyllin, Powys.

Gwaddol

Am 1300 BST ddydd Mercher cafodd gorymdaith ei chynnal o dan arweiniad marchogion o'r Oesoedd Canol ac roedd plant ysgol lleol hefyd yn cerdded drwy'r dref i'r castell lle cafodd seremoni arbennig ei chynnal.

Roedd hyn yn dynodi agor y castell i'r cyhoedd.

Mae'n wych i weld y castell yn ôl ym mherchnogaeth y cyhoedd
Sue Lewis
Bu Castell Aberteifi yn rhan ganolog o'r frwydr rhwng Tywysogion Cymru a goresgynwyr Normanaidd.

Cafodd y Castell ei rhoi fel gwaddol i Catherine of Aragon pan briododd Harri'r VIII.

Yn ôl Sue Lewis, sy'n cefnogi cais y Castell yn y gyfres Restroation, mae 'na waith i'w wneud ar y castell.

"Mae'n wych i weld y Castell yn ôl ym mherchnogaeth y cyhoedd.

"Fe fydd unrhyw gymorth y byddwn yn ei gael o ran arian neu gyhoeddusrwydd yn wych.

"Fe fydd ail agor y Castell yn rhoi Aberteifi ar y map ac yn denu mwy o ymwelwyr yma."

Bwriad y gyfres Restoration ydi dewis un adeilad o bob rhanbarth ym Mhrydain ar gyfer ennill y brif wobr sef arian i wneud y gwaith o adfer yr adeilad.

Y llynedd Plasdy Llanelli oedd yn cynrychioli Cymru wrth i hen faddonau Fictorianaidd ym Manceinion ennill.




HEFYD:
Cystadlu i adfer hen adeilad
30 Ebr 04  |  Newyddion
Canfod wal wreiddiol castell
05 Medi 03  |  Newyddion
Castell Aberteifi: Ar werth
02 Gorff 04  |  Newyddion
Ymgyrchu i ddiogelu castell
14 Ebr 03  |  Newyddion
Achub castell hynafol
03 Ebr 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^