|
Bethan Williams
BBC Cymru
|
Roedd John Owen ar fin sefyll ei brawf cyn iddo ladd ei hun
|
Amser cinio ddydd Iau mae'r Comisiynydd Plant Cymru, Peter Clarke, wedi cyhoeddi adroddiad y bu disgwyl mawr amdano.
Wedi'r ymchwiliad gafodd ei sefydlu i achos y cyn-athro drama a'r dramodydd John Owen bydd adroddiad Ymchwiliad Clywch yn cael ei gyhoeddi.
Roedd Owen wedi lladd ei hun pan oedd ar fin sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o gam-drin yn rhywiol nifer o'i gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ger Pontypridd yn ystod yr 1980au.
Pan fu farw Owen yn Hydref 2001 roedd pwysau mawr am ymchwiliad arbennig, yn bennaf i weld pa wersi y gellid eu dysgu o sut y deliodd yr awdurdodau â'r achos yn 1991 pan gafwyd cwynion amdano.
Ac yntau newydd ymgymryd â'i swydd, cyhoeddodd y Comisiynydd Plant y byddai'n cadeirio ymchwiliad arbennig, Ymchwiliad Clywch.
Cafodd Ymchwiliad Clywch ei gohirio sawl gwaith
|
Ym mis Mawrth 2002 cyfarfu'r ymchwiliad am y tro cyntaf a'r bwriad gwreiddiol oedd cwblhau'r adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn.
Ond doedd y llwybr ddim mor llyfn ac esmwyth ag yr oedd y comisiynydd wedi ei ragweld.
Mewn sesiynau cyhoeddus fe ddechreuwyd ar y gwaith o gasglu tystiolaeth.
Nid bwriad yr ymchwiliad oedd canfod Owen yn euog ai peidio o'r cyhuddiadau gafodd eu gwneud yn ei erbyn.
Y bwriad oedd canfod sut y llwyddodd i weithredu fel y gwnaeth dros gyfnod maith o flynyddoedd.
Llawn emosiwn
Mewn gwrandawiadau llawn emosiwn cafwyd straeon dirdynnol gan rai o'i gyn-ddisgyblion.
Buon nhw'n honni sut yr oedd Owen wedi ymosod arnyn nhw'n rhywiol a hynny o fewn muriau Ysgol Gyfun Rhydfelen, yn ei gartref ac ar dripiau ysgol answyddogol i'r theatr.
Fe fydd adroddiad Peter Clarke yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau
|
Bechgyn yn bennaf wnaeth yr honiadau ond cafwyd tystiolaeth gan ferch oedd yn honni iddo ymosod yn rhywiol arni hithau.
Ond wythnosau yn unig ar ôl i'r ymchwiliad ddechrau bu'n rhaid gohirio - a hynny ddiwedd Ebrill 2002.
Roedd cyhuddiadau newydd wedi'u gwneud am bobol eraill a bu'n rhaid galw'r heddlu i ymchwilio ymhellach.
Ar ddiwedd yr ymchwiliad hwnnw penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron oedd peidio ag erlyn ac ym Medi 2002 ailddechreuodd Ymchwiliad Clywch.
Rhai mewn awdurdod
Doedd yr ymchwiliad ddim yn cyfarfod yn gyson, ambell ddiwrnod fan hyn, dyddiau eraill fan draw a hynny wedi'u gwasgaru dros gyfnod o flwyddyn a hanner.
Roedd John Owen yn athro drama yn Ysgol Gyfun Rhydfelen
|
Yn ogystal â'r cyn-ddisgyblion bu pobol mewn awdurdod yn sôn am yr hyn wnaethon nhw pan gafwyd cwynion am yr athro drama yn 1991.
Ar ôl bod yn dysgu yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ers y 1970au, fe ymddiswyddodd Owen ym mis Ionawr 1991 ac er bod yr awdurdod lleol a'r heddlu wedi ymchwilio i'r helynt ar y pryd ni chafodd Owen ei ddisgyblu nac ychwaith ei erlyn.
Aeth ymlaen wedyn i ysgrifennu'r nofel boblogaidd Pam Fi, Duw, Pam Fi? a dau ddilyniant ac erbyn troad y ganrif roedd yn cyfarwyddo'r rhaglenni teledu Pam Fi Duw? gan weithio'n agos â phobl ifanc.
Tachwedd 6 2003 oedd diwrnod ola'r ymchwiliad i gasglu tystiolaeth ac ers hynny mae'r Comisiynydd wedi bod yn paratoi'r adroddiad hir ddisgwyliedig.
Daw'r disgwyl i ben ddydd Iau am 1200BST pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.
Mae'n adroddiad swmpus gyda nifer o argymhellion i geisio sicrhau na all cymeriad tebyg i Owen fyth eto gael y fath effaith a dylanwad ar blant ac oedolion.
Y CEFNDIR
Dyma ddetholiad o brif straeon Cymru'r Byd:
Tystiolaeth yr ymchwiliad
Arholwr yn ymddiswyddo
'Bygwth lladd ei hun'
'Camgymeriad mewn adroddiad'
'Taro disgybl'
Gohirio ymchwiliad John Owen
Ailddechrau
Ymchwiliad John Owen yn ailymgynnull
Gwahardd athro ar ôl gohirio ymchwiliad
Ymchwiliad yr heddlu
John Owen: Heddlu'n dal i ymchwilio
Gohirio ymchwiliad John Owen
Tystiolaeth yr ymchwiliad
John Owen: Tystiolaeth cyn-ddisgyblion
'Cusanu merch mewn swyddfa gaeëdig'
'Tynnu dillad wrth ymarfer drama'
John Owen: Tystiolaeth y tyst cyntaf
Ymchwiliad: Athro wedi cymell crasfa
Athro'n 'fwli' oedd â 'salwch meddwl'
Y Comisiynydd Plant
Comisiynydd Plant: Ymchwiliad cyntaf
Ymchwiliad cyhoeddus i achos John Owen
Y Cwest
John Owen: Hunanladdiad
Cyn yr ymchwiliad
John Owen: Comisiynydd Plant i ymchwilio
John Owen: Galwadau am ymchwiliad llawn
Marwolaeth John Owen
Darganfod awdur Pam Fi Duw? yn farw
John Owen yn y llys
Awdur Pam Fi Duw? yn y llys