BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 27 Mehefin, 2004, 16:52 GMT 17:52 UK
Protestio'n cau castell
Castell Biwmaris
Roedd yna tua 50 y tu allan i'r castell
Mae castell Biwmares wedi gorfod cau ar ôl i brotestwyr gau eu hunain i mewn.

Mae yna naw o brotestwyr yno o Fudiad Heddwch Bangor ac maen nhw'n protestio'n erbyn gweithgareddau llywodraeth San Steffan yn y Dwyrain Canol.

Dywed y protestwyr sydd y tu allan i'r castell eu bod yn bwriadu gwersylla yno tan 1730 BST nos Lun.

Yn ôl Gwilym Morus, myfyriwr ym Mangor, sydd yn y castell, "Rydyn ni'n protestio'n erbyn yr hyn mae llywodraeth Prydain yn ei wneud yn Irac, Palesteina ac Afghanistan.

"Rydyn ni'n bwriadu aros yma tan nos Lun."

Dywedodd eu bod wedi penderfynu mynd i'r castell am ei bod yn hawdd mynd i mewn.

Ychwanegodd Mr Morus fod tua 30 o brotestwyr y tu allan i'r castell ac ar un adeg bnawn Sul roedd hyd at 50 yno.

Dywedodd Jim Killock o Blaid Werdd Cymru bod yna tua 50 o brotestwyr y tu allan yn rhannu taflenni i egluro beth sy'n digwydd.

"Rwyn falch fod pobol yn protestio am beth sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol ac yn tynnu sylw at beth sy'n digwydd yna," meddai.

Yn ôl yr heddlu, mae'r protestio wedi bod yn heddychlon hyd yma.




HEFYD:
Rhagor o brotestio'n erbyn rhyfel
23 Maw 03  |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^