BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Mehefin, 2004, 16:13 GMT 17:13 UK
200 swydd i'r Cymoedd
safle arfaethedig y ffatri
Mi fydd y ffatri ym Mharc Hawtin
Bydd bron i 200 o swyddi'n cael eu creu yn y Cymoedd.

Y cwmni pecynnu bwyd Seda sy'n agor ffatri yn y Coed Duon.

Mae'n debyg fod grant Llywodraeth y Cynulliad ac un yr Awdurdod Datblygu wedi bod yn allweddol.

Mae'r cwmni'n cyflogi 1,800 o weithwyr mewn chwe gwlad yn Ewrop.

Eisoes mae'r recriwtio wedi dechrau.

Ymysg cwsmeriaid y cwmni Eidalaidd mae Nestle, Coca-Cola a McDonald.

Dywedodd y Gweinidog Datblygu Economaidd Andrew Davies yn "newyddion gwych".

"Mae hyn yn dangos bod yna hyder sylweddol yn economi Cymru."

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan yr AS lleol Don Touhig, a ddywedodd fod "y penderfyniad yn deyrnged i'r gweithlu yn yr ardal.

"Mae'r cwmni Eidalaidd yma'n cydnabod fod buddsoddi yma yn llwyfan gwych i ddatblygu ei fusnes Ewropeaidd a rhyngwladol."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^