BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Mehefin, 2004, 05:43 GMT 06:43 UK
Cofio taith gyntaf trên Trevithick
trên Trevithick
Carreg filltir: Taith trên Trevithick
Mae arddangosfa sy'n cofnodi 200 mlynedd ers taith y trên cyntaf yn y byd yn agor ddydd Mawrth.

Teithiodd y trên cyntaf o Benydarren i Abercynon ger Merthyr Tudful ar Chwefror 21, 1804.

Ar Stad Ddiwydiannol Trevethick ym Mhenydarren y mae canolfan ymwelwyr dros dro.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys copi maint-llawn o Drên Richard Trevithick o Gernyw.

Hwn yw'r tro cyntaf i'r trên gael ei ddangos yng Nghymru ers i'r Amgueddfa Diwydiant a Môr gau ym Mae Caerdydd.

Yn yr arddangosfa mae manylion am yr hyn gyfawnodd Trevithick, teithio'n gyffredinol a hanes Merthyr Tudful.

Yn Ionawr cyhoeddodd y Post Brenhinol gyfres o stampiau oedd yn nodi taith trên Trevithick.

A lluniodd y Bathdy Brenhinol ddarn arian £2 i nodi'r achlysur.




HEFYD:
Arian newydd i ddathlu taith
08 Ion 04  |  Newyddion
Stampiau i gofio'r trên cyntaf
13 Ion 04  |  Newyddion
Plant yn cofio'r trên cyntaf
12 Chwef 04  |  Newyddion
Cofio'r trên stêm cyntaf
21 Chwef 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^