BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Mehefin, 2004, 13:46 GMT 14:46 UK
Canmlwyddiant i'r sioe
Defaid yn cael eu harddangos
Mae nifer yn mynd i Lanelwedd i gystadlu

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dathlu canmlwyddiant eleni.

Mae'r gymdeithas, sy'n gyfrifol am gynnal y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, yn denu miloedd i'r pentref ym Mhowys bob blwyddyn.

Dim ond un o ddyletswyddau'r Gymdeithas ydi trefnu'r sioe ac mewn cyfres sy'n dechrau ar S4C nos Lun, Dathlu'r Sioe, bydd modd edrych ar hanes y gymdeithas.

Y sioe yng Ngorffennaf yw un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru a daw 230,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Oes ganddoch chi atgofion am y sioe? Anfonwch nhw drwy lenwi'r blwch isod

Mae W Dyfrig Davies a Terwyn Davies o gwmni Telesgôp wedi bod yn ymchwilio i hanes y sioe.

Cafodd y sioe gyntaf ei chynnal ddechrau mis Awst 1904 ar Gaeau'r Ficerdy, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, ar ôl i Lewes T Loveden Pryse awgrymu y dylid sefydlu cymdeithas a sioe genedlaethol.

Doedd y dasg o ffurfio un gymdeithas genedlaethol amaethyddol unedig ddim yn hawdd.

FFEITHIAU AM Y SIOE
Sioe Frenhinol Cymru
230,000 ymwelwyr yn flynyddol
1,000 o stiwardiaid
7,000 o gystadleuwyr
350 o feirniaid

Roedd un yn erbyn, John Gibson, golygydd y Cambrian News ar y pryd a chafodd gefnogaeth Cymdeithas Amaethyddol y Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin oedd yn erbyn am nad oedd y sioe yng Nghaerfyrddin.

"Mae'r ffaith fod y gymdeithas, sy'n trefnu'r sioe, yn 100 oed yn achos dathlu ac ymfalchïo," meddai'r cynhyrchydd, Dyfrig Davies.

"Ac mae'r rhaglenni'n cynnig cynfas eang, yn dwyn i gof sioeau a phrofiadau'r gorffennol drwy gyfweliadau, ffilmiau, archif a lluniau.

"Mae'r ffaith bod y ddwy'n dal i fynd ar ôl 100 mlynedd yn brawf o'u llwyddiant a'u pwysigrwydd i amaethwyr o bob cwr o'r wlad."

Bydd y sioe rhwng Gorffennaf 19 a 22.

  • Dathlu'r Sioe, Teledu Telesgôp, nos Lun ar S4C am 2025 BST.

    Enw
    Eich Cyfeiriad E-bost
    Tref a Sir
    Sylwadau

    Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.





  • CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^