BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Mehefin, 2004, 06:07 GMT 07:07 UK
Cymry'n 'codi' Cr y Cewri
Cr y Cewri
Cafodd cerrig gleision o'r Preseli eu defnyddio i adeiladu Cr y Cewri

Mae wedi dod i'r amlwg y gallai Cymry fod ymysg y rhai a gododd fynwent o'r Oes Efydd sydd wedi ei darganfod ger Cr y Cewri .

Defnyddiodd arbenigwyr brofion fforensig ar ddannedd a gafodd eu darganfod mewn mynwent 4,300 o flynyddoedd oed yn Boscombe Down ger Cr y Cewri er mwyn darganfod o ble y daeth yr adeiladwyr.

Mae eisoes yn hysbys fod cerrig gleision o fryniau'r Preseli yn Sir Benfro wedi eu defnyddio i godi Cr y Cewri.

Cafodd y fynwent ei darganfod y llynedd wrth i ffyrdd gael eu gwella yn yr ardal ac mae'n anarferol gan ei bod yn cynnwys gweddillion saith o bobol, tri o blant, person ifanc a thri o ddynion.

Mae archeolegwyr yn galw'r dynion yn fwawyr Boscombe oherwydd blaenau'r saethau ar y bedd.

"Mae bwawyr Boscombe...bron yn sicr o fod chysylltiad dod 'r cerrig gleision i Gr y Cewri," meddai Dr Andrew Fitzpatrick o Archeoleg Sir Wessex sydd wedi bod yn ymchwilio i'r fynwent.

"Roedd dannedd y bwawyr yn rhoi cliw ynglŷn ble yr oedden nhw'n dod.

"Wrth i'r enamel ffurfio ar ddannedd plant, mae'n creu l cemegol o'r lle y cawson nhw eu magu."

Mudo

Dywedodd fod profion gwyddonwyr yr Arolwg Daearegol Prydeinig ar y dannedd yn dangos fod y bwawyr wedi eu magu mewn man lle roedd y creigiau'n ymbelydrol iawn.

Golyga hyn, meddai, eu bod wedi eu magu yng Nghymru neu yn Ardal y Llynnoedd.

Penglogau (Llun: Elaine Wakefield - Archeoleg Wessex)
Cafodd penglogau eu darganfod yn y fynwent 4,300 o flynyddoedd oed

Mae'r un patrwm i ddannedd y dynion sy'n dangos eu bod wedi mudo rywbryd rhwng pan oedden nhw'n dair oed a 13 oed.

"Mae hon yn stori wych i Gymru," meddai Adam Gwilt, Curadur Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

"Drwy ddefnyddio'r dechneg newydd gyffrous rydyn ni'n dechrau gweld y pellteroedd mawr yr oedd pobol yn ei deithio yn ystod yr Oes Efydd.

"Roedd cludo cerrig gleision y Preseli i'r safle cysegredig hwn yn llwyddiant mawr."

Gelwir y cerrig yn gerrig gleision oherwydd eu lliw.

Mae'n parhau yn ddirgelwch sut y cafodd y cerrig mawr eu llusgo 200 o filltiroedd i'r fynwent hynafol.

Soniodd y Dr Fitzpatrick am y canfyddiad mewn sgwrs yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ar Fehefin 23 am 1305 BST. Bydd y canfyddiad yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Salisbury o Orffennaf 3.




HEFYD:
Dod o hyd i lwybr canoloesol
08 Meh 04 |  Newyddion
Olion fferm o'r Oes Efydd
21 Awst 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^