BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 19 Mehefin, 2004, 17:16 GMT 18:16 UK
Gwyl Glyndwr yn dathlu 600 mlynedd
Straeon Glyndŵr
Cleddyf Glyndŵr

Cafodd digwyddiadau eu cynnal ym Machynlleth ddydd Sadwrn fel rhan o Ŵyl Penwythnos Cenedl Glyndŵr.

Mae'r penwythnos hir yn benllanw wythnosau os nad misoedd o baratoi ar gyfer coffu 600 mlynedd ers i Owain Glyndŵr sefydlu ei Senedd ym Machynlleth a chael ei goroni.

Nod y penwythnos ydi dathlu cyfraniad Glyndŵr mewn nifer o ffyrdd.

Llysgenhadaeth Glyndŵr sydd wedi trefnu'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal am bedwar diwrnod ym Machynlleth, rhwng dydd Gwener a dydd Llun.

Cafodd Glyndŵr ei goroni'n frenin ar Fehefin 21, 1404.

Fel rhan o'r dathliadau ddydd Sadwrn roedd cerddorion yn perfformio a beirdd a chlerwyr yn mynd o dafarn i dafarn yn y dref yn darllen eu gwaith.

Hefyd ddydd Sadwrn cafodd cyfrol o farddoniaeth gan Rhys Parry ei lansio.

Yna dydd Sul bydd un o brif ddigwyddiadau'r penwythnos pan yw Cleddyf Glyndŵr yn cael ei gyflwyno i ofalaeth tref Machynlleth.

Cyhoeddi'r Wyl

Cyflwynir y cleddyf, sydd wedi cael ei gwneud gan Jason Gardiner, gof o Ystradgynlais, i'r dref mewn seremoni arbennig.

Mae Cleddyf y Genedl i fod yn debyg iawn i gleddyf Glyndŵr.

Dydd Gwener cafodd baneri Glyndŵr eu codi ar Fryn Penrallt, uwchben Machynlleth, i nodi dechrau'r Ŵyl.

Wedyn roedd agoriad swyddogol yn agor yr Ŵyl yn y Senedd-dy.

"Mae 'na lot o ddigwyddiadau, gan gynnwys picnic, sioe bypedau, arddangosfa, darlith y Dr John Davies, a sioe gerdd," meddai Sin Ifan, o Lysgenhadaeth Glyndŵr.

"Fe fydd 'na gyfle i ymwelwyr fod yn rhan o ddigwyddiad pwysig iawn yn hanes Cymru, Machynlleth a Glyndŵr."

Ar Ddydd y Senedd, dydd Llun, bydd cyfarfod i geisio sefydlu Mehefin 21 fel Dydd y Senedd yn flynyddol a hybu Gwyliau Glyndŵr drwy Gymru.




HEFYD:
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04  |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04  |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03  |  Newyddion
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^