BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Mehefin, 2004, 12:36 GMT 13:36 UK
Colli bardd ac ysgolhaig
Yr Athro J Gwyn Griffiths
Magwyd yr Athro J Gwyn Griffiths yng Nghwm Rhondda
Bu farw'r bardd, yr ysgolhaig, y beirniad a'r golygydd, yr Athro J Gwyn Griffiths ddydd Mawrth yn 92 oed.

Bu'n Athro y Clasuron ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe.

Cafodd yrfa academaidd ddisglair a chyhoeddodd nifer o astudiaethau ar grefydd yr Aifft ac ar destunau Groeg a Lladin.

Fe'i magwyd yn y Porth, y Rhondda, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Cymru, Lerpwl a Rhydychen.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser ym Mhrifysgol Abertawe lle bu'n Athro y Clasuron ac Eifftoleg.

Bu'n Athro Gwadd ym Mhrifysgolion Cairo, Bonn a Tübingen ac yn Gymrawd Gwadd yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen.

Un sy'n cofio ei ysgolheictod yw'r Athro Ceri Davies o Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe.

"Roedd yn Eifftolegydd o fri cyd-wladol a'i waith ar grefydd yr Eifftiaid, er enghraifft ei olygiad o De Iside et Osiride Plutarch, yn sylfaenol i ddysg yn y maes.

...roedd yn hoffi dryllio delwedd, oedd yn nodwedd ddeniadol iawn
Yr Athro Ceri Davies
"Trwy'r cyfan roedd Cymru a'r Gymraeg a'i fagwraeth ar aelwyd ddiwylliedig yng Nghwm Rhondda yn greiddiol i'w bersonoliaeth."

Mae'r Athro Davies yn cofio hiwmor J Gwyn Griffiths.

"Roedd ganddo hiwmor direidus ac mae modd gweld hyn yn ei gerddi.

"Ac roedd yn hoffi dryllio delwedd, oedd yn nodwedd ddeniadol iawn."

Roedd yn fardd a llenor ac yn un o sylfaenwyr Cylch Cadwgan, cylch arloesol o lenorion yn y Rhondda oedd yn cynnwys y beirdd a'r nofelwyr Rhydwen Williams a Pennar Davies.

Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi, Yr Efengyl Dywyll (1944), Ffroenau'r Ddraig (1961), Cerddi Cairo (1969) a Cerddi'r Holl Eneidiau (1981).

A chyhoeddodd gyfrol o astudiaethau llenyddol sef I Ganol y Frwydr sy'n trafod cyfrifoldeb moesol a chymdeithasol y llenor yn y byd modern.

Ymgyrchu

Roedd yn gyd-olygydd cylchgrawn Y Fflam gydag Euros Bowen a Pennar Davies a golygodd bapur newydd Plaid Cymru, Y Ddraig Goch.

Bu'n Ysgrifennydd a Llywydd Adran Glasurol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru a golygodd ddwy gyfrol o gyfieithiadau o farddoniaeth glasurol ar ran yr Adran, sef Cerddi o'r Lladin a Cerddi Groeg Clasurol.

Cyhoeddodd gyfieithiad o Farddoneg Aristotlys.

Golygodd gyfrol er anrhydedd i'r llenor D J Williams, oedd yn gyfaill iddo, a chyfrol yn portreadu ei fywyd a'i waith.

Roedd yn genedlaetholwr amlwg a safodd mewn etholiadau lleol a seneddol dros Blaid Cymru.

Bu'n ymgyrchydd o blaid addysg Gymraeg a choleg Cymraeg.

Roedd yn briod â'r awdures y Dr Kate Bosse Griffiths, ac yn dad i Robat Gruffudd, Gwasg y Lolfa, a Heini Gruffudd, Cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^