BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mehefin, 2004, 11:51 GMT 12:51 UK
'800 swydd i ganolfan siopa'

Mae'n bosib y gall hyd at 850 o swyddi newydd gael eu creu yn Sir y Fflint o ganlyniad i gynlluniau i ehangu Parc Siopa Brychdyn.

Mae Ymddiriedolaeth Uned Hercules, perchnogion y parc, a Development Securities PLC, wedi cyflwyno cais cynllunio ar y cyd i Gyngor Sir y Fflint.

Byddai'r cynlluniau yn arwain at agor siop Marks and Spencer, ehangu siop Tesco a chodi rhes o siopau llai.

A byddai 500 o leoedd parcio ychwanegol yn cael eu creu.

Cafodd Parc Siopa Brychdyn ei agor ym Mai 1999 ac mae 1,400 eisoes yn cael eu cyflogi yno.

'Mwy o ddewis'

Nod yr ehangu, meddai'r perchnogion, yw rhoi cartref i nifer o siopau'r stryd fawr.

Byddai'n rhoi mwy o ddewis i siopwyr Sir y Fflint, medden nhw.

"Byddai'r cynlluniau cyffrous yn arwain at gyfleusterau mwy deniadol a gwell mynediad i holl ymwelwyr y parc," meddai Collin Gilligan, rheolwr Parc Siopa Brychdyn.

"Rydyn ni'n credu y bydd yr estyniad hwn yn gwasanaethau'r sir yn ogystal darparu cyfloedd am swyddi," meddai Dafydd Jones o Development Securities Properties.

"Bydd pobol o fewn y sir yn teithio llai i ganolfannau siopa y tu allan i Gymru."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^