BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mehefin, 2004, 06:07 GMT 07:07 UK
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
Straeon Glyndwr

Mae stamp yn cael ei gyhoeddi sy'n cyfeirio at leoliad brwydr fawr Owain Glyndŵr.

Tirluniau o Gymru sy ar stampiau cyfres Taith trwy Brydain.

Dyffryn gwyllt Hyddgen, yn uchel ym Mynyddoedd y Canolbarth, sydd ar y stamp dosbarth cyntaf.

Dyma lle enillodd Owain Glyndŵr un o'i frwydrau mawr yn ystod y rhyfel am annibyniaeth i Gymru.

Yn haf 1401 wynebodd Byddin Glyndŵr Fyddin Lloegr a'i churo.

Yn ei fyddin roedd 120 o wirfoddolwyr ar ferlod mynydd Cymreig ond byddin broffesiynol oedd gan Loegr a Fflandrys, mwy na 1,500 o filwyr.

Mae enw lle mwyaf hir Prydain ar Amlen Diwrnod Cyntaf y stampiau.

Stamp Hyddgen
Buddugoliaeth: Mynydd Hyddgen

Bydd casglwyr sy'n cyflwyno neu'n postio amlenni diwrnod cyntaf ym mhrif ganghennau'r Swyddfa'r Post yn derbyn marc post lluniadol gyda Llanfairpwllgwyngyll (gogerychwyrndrobwll-llantysiliogogogoch) arnyn nhw.

Mae'r tirluniau ar y stampiau'n cynnwys Pont y Bermo ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Rhewl yng Nglyn Dyfrdwy, Pumlumon a Bannau Brycheiniog, Cwm Rhondda a Thraeth Marloes yn Sir Benfro.

"Tasg anodd i'r dylunwyr oedd dewis dim ond chwech o'r lleoliadau gorau yng Nghymru," meddai Gareth Davies, Cyfarwyddwr Materion Cymreig Grŵp y Post Brenhinol.

Hardd

"Rydyn ni'n fodlon ar y dewis sy'n dangos cefn gwlad a thirlun godidog Cymru.

"Bydd cyfle gyda ni bellach i ddangos i bobol ledled y byd pa mor hardd yw'r wlad lle rydyn ni'n byw."

Cyhoeddwyd cyfres y stampiau yn Yr Alban yng Ngorffennaf 2003 a chafodd ei lansio yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mawrth eleni.

"Rwy'n sicr y bydd stampiau Cymru Brydferth yn boblogaidd ar draws Prydain a gweddill y byd," meddai Julietta Edgar, Stampiau ac Eitemau Casgladwy'r Post Brenhinol.

Yn y cyfamser, mae Cangen Plaid Cymru yn Llundain wedi dweud nad yw'r set o stampiau'n coffu'n iawn 600 mlynedd ers sefydlu Senedd Glyndŵr ym Machynlleth.

  • A ddylai'r Post Brenhinol gyhoeddi set o stampiau i goffu Senedd Glyndŵr? Danfonwch eich ateb i Cymru'r Byd drwy glicio yma.

    EICH SYLWADAU

    Dylid creu stampiau i goffa arwr mwya'n cenedl ar ei 600 mlwyddiant. Tasa hyn yn ymwneud a unrhyw dywysog neu frenin Lloegr yna buasai stampiau o bob lliw a llun yn cael eu creu a'u cynllunio! Fel arfer, mae Cymru yn cael y fargen salaf ymhob dim.
    Selwyn Lloyd Jones



  • HEFYD:
    'Mynnwch stampiau Cymreig'
    26 Ion 04  |  Newyddion
    Stampiau i gofio'r trn cyntaf
    13 Ion 04  |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^