Mi fydd y wefan newydd yn cael ei lansio ym mhabell y Gymdeithas
|
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lansio ei gwefan newydd yn eu huned ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher.
Yn ôl y Gymdeithas, mi fydd hyn yn rhoi cyfle i "bobol roi gwybod os a chawn nhw wasanaeth yn Gymraeg".
Ac mae'r Gymdeithas yn addo bod "yn fwy o niwsans nac erioed".
"Mae'r wefan newydd yn gyffrous, yn fywiog, ac yn arf cwbwl allweddol yn y frwydr dros barhad yr iaith Gymraeg," meddai Hedd Gwynfor, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith.
"Ar y wefan hon bydd modd i'n haelodau, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb, i fynegi eu cwynion os nad ydyn nhw'n gallu derbyn gwasanaeth yn Gymraeg neu os oes unrhyw ddatblygiad penodol yn peryglu eu cymuned.
'Niwsans'
"Drwy'r wefan bydd modd anfon negeseuon yn uniongyrchol at weinidogion y Cynulliad neu swyddogion y Bwrdd Iaith.
"Gyda'r wefan hon byddwn yn fwy o niwsans nac erioed i'r sefydliad yng Nghymru.
"Bydd modd ymaelodi â'r Gymdeithas drwy'r wefan a chyn hir bydd modd prynu ein nwyddau arlein.
"Mae'r wefan hon yn profi unwaith eto fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar flaen y gad yn y frwydr dros ddyfodol y Gymraeg yng Nghymru," ychwanegodd.