BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Hydref, 2004, 20:05 GMT 21:05 UK
Protest iaith: Arestio naw
bwyd McDonalds
'Nid oes gan McDonalds bolisi dwyieithrwydd cenedlaethol'
Cafodd naw o aelodau o Cymdeithas yr Iaith eu harestio bnawn Iau.

Roedden nhw'n protestio y tu allan i fwyty McDonalds yn Aberystwyth.

Bwriad y brotest oedd "codi'r ymwybyddiaeth o'r diffyg Cymraeg sydd i'w ganfod mewn siopau preifat ledled Cymru".

Roedd y brotest yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am ddeddf iaith newydd.

Dywed y protestwyr fod McDonalds "yn enghraifft nodweddiadol o agwedd y sector breifat tuag at y Gymraeg".

"Nid oes gan McDonalds bolisi dwyieithrwydd cenedlaethol," meddai Rhys Llwyd, cadeirydd ymgyrch y Gymdeithas dros ddeddf iaith newydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni fel cell wedi bod yn targedu cwmnïau sydd yn berthnasol i ni fel pobol ifanc.
Lois Barrar
"Yr unig beth y ceir ydy ychydig o arwyddion fan hyn fan draw, nid ydy hynny yn rhoi cyfartaledd a thegwch i'r Gymraeg.

"Fe dargedwyd McDonalds mewn cyfres o brotestiadau flwyddyn union yn ôl.

"Wrth fynd yn ôl i brotestio flwyddyn yn ddiweddarach, nid yn unig yr ydym yn dangos methiant McDonalds i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ond rydym hefyd yn dangos methiant Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddwyn perswâd ar y sector breifat i gynnig gwasanaethau Cymraeg."

Merched a'r rheiny'n fyfyrwyr yn y brifysgol yn Aberystwyth oedd y naw gafodd eu harestio.

Un o'r rhain yw cadeirydd cell y brifysgol yn Aberystwyth, Lois Barrar.

Y brotest
Roedd y brotest yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am ddeddf iaith
"Dydy strategaeth bresennol Bwrdd yr Iaith ddim yn gweithio," meddai.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni fel cell wedi bod yn targedu cwmnïau sydd yn berthnasol i ni fel pobol ifanc.

"Rydyn ni wedi bod yn targedu cwmnïau fel Orange, Burger King a heddiw McDonalds.

"Pan aethon ni fel cell i swyddfa Bwrdd yr Iaith ddechrau'r flwyddyn nododd Meirion Prys y prif weithredwr fod gan y bwrdd strategaeth hir dymor ac ar hyn o bryd roedd y bwrdd yn canolbwyntio ar gwmnïau dwr a phethau felly.

"Rydyn ni'n credu fod angen i Fwrdd yr Iaith roi llawer mwy o bwysau ar gwmnïau yn y sector breifat oherwydd cwmnïau fel Orange a McDonalds yr ydyn ni yn eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd, dyna beth sy'n berthnasol i ni fel Cymry Cymraeg ifanc."

Yn yr wythnosau diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn protestio yn y Fflint, Caernarfon, Aberystwyth ac yng Nghaerdydd.




HEFYD:
Protest iaith yn targedu siopau
07 Hyd 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^