Mae Senedd yr Alban yn trafod deddf Gaeleg newydd
|
Mae AS Llafur o'r Alban wedi cyhuddo llywodraeth San Steffan o beidio rhoi digon o arian i ddarlledu Gaeleg.
Dywed Calum MacDonald, AS y Western Isles, fod yna gyfle gwych i sefydlu sianel deledu digidol i'r iaith.
Ond dywed yr AS Llafur fod llywodraeth San Steffan yn "amharod" i gefnogi'n ariannol fenter o'r fath.
Dywed bod angen swm sylweddol o arian ac nad oedd yr £8.5m presennol yn ddigon.
Yn ôl Mr MacDonald mae'r arian sydd ar gael ar hyn o bryd gan lywodraeth Llundain tuag at ddarlledu yn yr Aeleg yn llai na'r hyn oedd y Ceidwadwyr yn ei roi pan oedden nhw mewn grym.
Disgrifiodd Mr MacDonald yr arian sydd ar gael fel "plentyn amddifad datganoli yn cael ei gadw ar ddeiet newyn".
"Ni ellir amddiffyn yr ystadegau hyn," meddai. "Dylai fod gan Lywodraeth Llundain a Llywodraeth yr Alban gywilydd o hyn."
'Swm sylweddol'
Ond dywedodd Gweinidog Diwylliant San Steffan Richard Caborn fod y mater "yn uchel ar yr agenda wleidyddol" a bod yna "swm sylweddol o arian ar gael".
Ychwanegodd Mr Caborn fod gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Tessa Jowell "ymrwymiad cryf" tuag at ddarlledu Gaeleg.
Doedd o ddim yn credu y byddai yna ragor o arian.
Ond ychwanegodd bod Ms Jowell wedi "addo edrych ar ddyfodol darlledu Gaeleg o fewn cyswllt adolygiad siarter y BBC a dyfodol ehangach darlledu digidol".
Mae yna gyfarfod wedi ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd i drafod y mater.