Mae Radio Sir Gār yn darlledu o Narberth yn Sir Benfro
|
Mae Radio Sir Gaerfyrddin wedi cael rhybudd oddi wrth Ofcom, y corff sy'n cadw golwg ar y diwydiant darlledu, wedi cwynion am ddiffyg darpariaeth Gymraeg yr orsaf.
Cafodd ymchwiliad ei lansio ar ōl i ymgyrchwyr iaith honni fod rheolwyr yr orsaf wedi torri addewidion.
Mae Ofcom wedi galw ar Radio Sir Gār i weithredu ar frys.
Mewn datganiad yng nghyfarfod Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad dywedodd cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams: "Awgrymodd ein monitro fod swm yr iaith Gymraeg a ddarlledir gan yr orsaf yn ystod oriau'r dydd yn llai na'r hyn a gynigiwyd.
"Rydyn ni wedi gofyn i'r orsaf i roi sylw i hyn.
"Fodd bynnag rydyn ni'n pryderu'n fwy am absenoldeb llwyr cerddoriaeth Gymraeg o'r sioe gyda'r nos gan ei bod yn ymddangos fod hyn yn torri'r addewid yn amlwg.
"Mae gan Ofcom ystod o bwerau i osod sancsiynau statudol yn erbyn ei ddeiliaid trwydded sy'n cynnwys, mewn cyfyngder, gosod cosb ariannol neu fyrhau neu ddileu'r drwydded.
"Ry'n ni heddiw wedi rhoi rhybudd cerdyn melyn i'r orsaf gan nodi ein pryderon a gofyn iddi ddatrys y problemau yma yn gyflym ac yn effeithiol."
Yn y cyfamser, mae dyfodol darlledu yng Nghymru yn cael sylw mewn cynhadledd yng Nghaerdydd nos Fercher.
Cynhadledd Llais y Gwrandawr a'r Gwyliwr (VLV) yw hon.
Ymysg y rhai yn y gynhadledd mae penaethiaid S4C ac ITV yng Nghymru, cynrychiolydd o BBC Cymru a phennaeth Ofcom Cymru.