Yr actor Burt Kwouk yn dadorchuddio'r gofeb gyntaf
|
Mae Gogledd Cymru wedi bod yn lleoliad pwysig i ffilmiau Cymru a Hollywood.
Cafodd plac ei ddadorchuddio ym Meddgelert ddydd Gwener i nodi ffilm enwog Inn of the Sixth Happiness.
Hwn yw'r cynta mewn cyfres y bydd Comisiwn Ffilm Cymru yn ei chodi yn y tair blynedd nesaf.
Nod y comisiwn ydi codi 10 plac yng ngogledd Cymru o fewn y flwyddyn nesa.
Bydd yr holl blaciau'n cael eu nodi ar fap fydd yn hybu twristiaeth yr ardal a'r diwydiant ffilm.
Cenhades
Burt Kwouk, yr unig actor o'r ffilm wreiddiol sy'n dal yn fyw, ddadorchuddiodd y plac.
Ingrid Bergman oedd seren y ffilm oedd am hanes y genhades Gladys Aylward a lwyddodd i arwain criw o blant amddifad yn China i ddiogelwch.
Fe fydd y gwesty lle arhosodd Angelina Jolie yn cael plac
|
Roedd ardal Beddgelert yn debyg i China adeg y ffilmio yn 1958.
Ymhlith yr actorion enwog eraill sydd wedi bod yn ffilmio yn y gogledd y mae Richard Gere, Sean Connery ac Angelina Jolie.
Nod y comisiwn ydi gosod 20 plac arall ar draws y gogledd rhwng 2004 a 2006.
Bydd y placiau'n nodi lleoliadau ffilmiau, gan gynnwys From Russia With Love (Maentwrog); Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life (Llanberis); First Knight (Trawsfynydd); Mortal Combat II (Mynydd Parys); Hedd Wyn (Trawsfynydd); On The Buses (Prestatyn) a'r gyfres boblogaidd The Prisioner (Portmeirion).
"Y bwriad yw dangos pa mor gyfoethog ydi Gogledd Cymru o ran golygfeydd ar gyfer ffilmiau," meddai Richard Coombs, Rheolwr Cyd-lynydd Fflim Gogledd Cymru.
"Mae yma ddiwydiant ffilm llwyddiannus a gweithwyr talentog yn byw a gweithio yn y gogledd.
"Byddai denu ffilmiau'n ychwanegu at economi'r ardal."