Bydd 19 o ysgolion cynradd yn cael eu creu
|
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgelu manylion eu cynllun 10-mlynedd i ad-drefnu addysg.
Daw'r ad-drefnu £110m wedi adolygiad hir a manwl, meddai'r cyngor.
Tra bydd un ysgol uwchradd a 19 o ysgolion cynradd yn cael eu creu, gallai tua 30 ysgol gynradd gau.
Mae rhai rhieni ac ymgyrchwyr wedi dweud eu bod anfodlon..
Bydd ad-drefnu mawr yn yr ardaloedd o gwmpas Llandeilo a chredir mai yno y bydd y gwrthwynebiad mwya chwyrn.
Bydd dwy ysgol newydd ar gyfer ardal tre Llandeilo yn lle ysgolion Ffairfach, Teilo Sant, Llandeilo, Cwmifor a Trap.
Ysgolion newydd
A bydd ysgolion newydd yn ardaloedd Caio, Talyllychau, Rhydcymerau, Llansawel a Brechfa; Gwynfryn, Ponthenri, Pontiets a Charwe yng Nghwm Gwendraeth; Llandybie, Blaenau a Nantygroes ger Rhydaman; a Chefneithin, Drefach, Cross Hands, Maesybont a Chwmgwili.
Ysgol Gynradd Trap ger Llandeilo yw'r un lleiaf yn y sir gyda dim ond saith o ddisgyblion.
Mae'r cynlluniau'n golygu:
-
Ysgol newydd £4m i ddisgyblion yn Copperworks a Lakefield, Llanelli
-
Ysgol £3.25m yn lle Ysgol Gynradd y Bryn, Llanelli
-
Ysgol £4m yn lle Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli
- Ysgolion £1.5m ar gyfer Brynsierfel a Phen-y-groes ac ysgol £1.25m i Bembre
-
Ysgol £2m i Drimsaran
- Ysgol £2m ym Mheniel, Caerfyrddin.
Roedd rhai o'r cynlluniau eisoes yn hysbys.
Mae ysgolion uwchradd Saesneg Cambria a Maridinum yng Nghaerfyrddin wedi dechrau ar y broses o uno.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn croesawu'r buddsoddiad ond yn poeni na ystyriwyd dewisiadau eraill fel clystyru ysgolion.
"Mae ysgolion yn aml yn hanfodol i'r cymunedau," meddai Adam Price AS a Rhodri Glyn Thomas AC, y ddau'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
"Byddai eu cau'n effeithio'n andwyol ar y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.
"Mae rhai achosion ble mae'n rhaid ystyried cau ond mae'r cyngor wedi penderfynu cau ar raddf eang heb edrych ar bob achos yn unigol."
Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith nad oedd cynlluniau'r cyngor er lles cymunedau bach Cymraeg.
"Mae dyddiau canoli popeth i ysgolion mawr canolog wedi mynd.
'Nid moderneiddio'
"Nid moderneiddio yw hyn.
"Maen nhw'n sôn am adeiladau ond dydyn nhw ddim yn sôn am bobol nac addysg."
Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, wedi amddiffyn yr ad-drefnu.
"Fe welon ni luniau o doiledau y tu allan ac ry'n ni'n clywed am staff yn dysgu yn y coridorau," meddai.