Roedd y cŵn, fe honnir, mewn amodau gwael
|
Mae un o'r swyddogion sy'n trin cŵn Heddlu'r De wedi ei wahardd o'i waith wedi adroddiadau ei fod wedi methu â gofalu am ddau gi oedd yn ei ofal.
Roedd ci alsatian a spaniel, fe honnir, wedi eu darganfod mewn amodau byw gwael yn ei dŷ.
Fe gwynodd swyddogion o Heddlu'r De wedi iddyn nhw weld y cŵn yn ymddangos yn flêr.
Mae'r anifeiliaid nawr wedi eu hail gartrefu gyda swyddog arall.
Dyw'r alsatian a'r spaniel ddim yn cael eu defnyddio gan yr heddlu ar hyn o bryd er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'u perchennog newydd.
Cadarnhaodd yr Uwch arolygydd Paul Edmunds fod pryderon wedi eu codi ynlgŷn â lles y ddau gi yng nghartref y swyddog.
Ymchwiliad
"Mae swyddog gyda'r heddlu wedi ei wahardd o'i waith wedi i wybodaeth gael ei dderbyn yn ymwneud â lles y ddau gi heddlu," meddai.
"Wedi i ni dderbyn yr wybodaeth cafodd y ddau gi eu hadfer gan bennaeth yr adran gŵn a cheffylau.
"Does dim un wedi eu trin yn wael ond roedd pryderon am eu lles.
"Mae'r ddau wedi eu harchwilio ac mae ymchwiliad wedi dechrau.
"Mae lles a diogelwch ein cŵn yn hollbwysig i'r llu hwn."
Nawr mae swyddogion o'r llu wedi archwilio cartrefi'r holl swyddogion sy'n trin cŵn, 44 i gyd, er mwyn monitro amgylchiadau byw.
Mae'r RSPCA, y Gymdeithas Frenhinol ar Atal Creulondeb i Anifeiliaid wedi eu hysbysu.