BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Hydref, 2004, 10:13 GMT 11:13 UK
Gwerthu sied fach am 21,000
Y sied frics
Fe ddangosodd pobol o bob cwr o'r byd ddiddordeb yn y sied

Mae sied frics goch mewn lle anghysbell ar arfordir Sir Benfro wedi ei gwerthu mewn ocsiwn am bris oedd dros 40 gwaith yn fwy na'r disgwyl.

Roedd y cyngor sir yn gobeithio cael 500 am yr hen gyfnewidfa ffn yn Kilpaison.

Ond wedi cyfeiriad ati mewn cylchgrawn eiddo dangosodd pobol o wledydd tramor ddiddordeb yn y sied 15 troedfedd o hyd a 9 troedfedd o led.

Ond gŵr lleol brynodd y sied am 21,000.

Mae llechi ar do'r sied ond does gan y perchennog ddim llawer o obaith i gael caniatd cynllunio i'w ddefnyddio fel cartref.

Ar ddarn o dir wedi ei ffensio y mae'r sied a dywedwyd wrth un person oedd yn ceisio ei brynu na fyddai'n cael cadw carafn yno hyd yn oed.

Synnu

Ond mae golygfeydd da o'r sied a chredir fod y perchennog am ei throi'n stiwdio artist.

Dywedodd y gwerthwr tai Cecilia Sykes o gwmni Bob Jones Prytherch ei bod yn synnu at yr ymateb.

"Roedd llawer iawn o ddiddordeb, roedd dau berson wir ei eisiau a dyna pam y cododd i'r pris hwn."

Yn ogystal denu diddordeb o Brydain fe dderbyniodd Ms Sykes alwadau o Awstralia ac Ynysoedd Capri ym Mr y Canoldir.

Roedd yn un o naw eiddo yn perthyn i'r cyngor sir oedd ar werth yn yr ocsiwn.

Daeth dros 400 o bobol i'r arwerthiant yn Hwlffordd.




HEFYD:
Dim gwerthu t sinc
25 Maw 04  |  Newyddion
Gwerthu cwt am 39,000
07 Meh 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^