BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Hydref, 2004, 06:01 GMT 07:01 UK
Yr Urdd yn symud i'r Bae
Canolfan Mileniwm Cymru
Yr Urdd fydd un o'r mudiadau cyntaf i symud i'r ganolfan newydd

Bydd Swyddfa'r Urdd yng Nghaerdydd yn cau yn Heol Conwy, Pontcanna, ddydd Llun wrth i'r mudiad symud i Ganolfan Mileniwm Cymru yn y Bae .

Yr Urdd fydd un o'r sefydliadau cyntaf i symud i'r adeilad yma.

Mae swyddfa'r Urdd yng Nghaerdydd wedi bod yn Heol Conwy ers 1967, ac mae'r adeilad wedi bod yn gartref i amryw o aelwydydd a chymdeithasau ers rhai blynyddoedd.

Yn ogystal bod yn gartref i'w swyddfeydd, bydd yr Urdd hefyd yn agor gwersyll newydd yng Nghanolfan y Mileniwm.

Bydd lle yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd i hyd at 153 o bobol mewn ystafelloedd en suite.

Bwriad Gwersyll Caerdydd yw cynnig profiadau dinesig i blant a phobol ifanc a chyfle i aros yn adeilad Canolfan y Mileniwm.

'Profiadau celfyddydol'

"Bydd yr Urdd yn agor gwersyll newydd am y tro cyntaf ers dros 50 mlynedd ar Dachwedd 26," meddai Alun Owens, cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd.

"Bydd y Gwersyll yn medru cynnig profiadau celfyddydol unigryw i aelodau'r Urdd.

"Yn wahanol i'r gwersylloedd eraill sy'n rhoi profiadau gwledig ac awyr agored gwych i ieuenctid Cymru, bydd Gwersyll Caerdydd yn cynnig profiadau dinesig ac yn ychwanegu at y dewis anhygoel sydd ar gael gan yr Urdd."

Bydd yr Urdd, hefyd, yn cynnal ei Eisteddfod ym Mae Caerdydd yn 2005.

Y bwriad yw cau nifer o'r strydoedd sy'n amgylchynu'r Ganolfan a bydd yr Eisteddfod yn defnyddio sinema yr UCI ar gyfer rhagbrofion a phrif theatr y Ganolfan ar gyfer y rhan fwyaf o'r cystadlaethau llwyfan.

Mae'r Urdd yn cael ei ystyried fel un o brif bartneriaid Canolfan Mileniwm Cymru.

Ymysg y mudiadau eraill fydd yn symud yno mae Cwmni Opera Cymru a chwmni dawns Diversions.




HEFYD:
Goriad Canolfan yn nwylo'r Urdd
04 Meh 04  |  Newyddion
Carreg filltir yn hanes Canolfan
17 Mai 04  |  Newyddion
Pennaeth i wersyll newydd yr Urdd
27 Ion 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^