BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Hydref, 2004, 10:58 GMT 11:58 UK
Eisteddfod: 'Atal y wobr'
Cystadleuwyr yn Eisteddfod Llangollen y llynedd
Mae'r Eisteddfod yn denu cystadleuwyr o bob cwr o'r byd

Mae Eisteddfod Llangollen wedi dod yn agos iawn at ennill Gwobr Heddwch Nobel.

Hwn oedd y tro cyntaf iddi gael ei henwebu ers cael ei sefydlu 57 mlynedd yn l a'r enwebydd oedd y cennad heddwch Dr Terry Waite.

Yr enillydd yw Wangari Maatha, yr Affricanes gynta i ennill y wobr.

Cyhoeddwyd y canlyniad yn Oslo, Norwy, fore Gwener, a bydd hi'n derbyn 700,000.

Nod yr eisteddfod yw hyrwyddo cytgord byd-eang a dod chystadleuwyr dawnsio a chanu at ei gilydd o bob rhan o'r byd.

Mae'r ffaith fod yr eisteddfod wedi ei henwebu yn fraint aruthrol
Nigel Davies, llefarydd ar ran Eisteddfod Llangollen
Er yr holl ryfeloedd yn y byd, daw plant a phobol i Langollen bob blwyddyn i gystadlu.

Yng Ngorffennaf roedd cynrychiolwyr o Rwsia a Chechnya, dwy wlad sy wedi bod yn ymladd ers sawl blwyddyn.

"Mae'r ffaith fod yr eisteddfod wedi ei henwebu yn fraint aruthrol," meddai llefarydd ar ran Eisteddfod Gydwladol Llangollen, Nigel Davies.

"Rydyn ni wedi ein henwebu am ethos yr eisteddfod ac mae hynny wedi parhau hyd heddiw. Mae'n dod phobol ynghyd."

Eleni edrychodd y pwyllgor dyfarnu ar 194 o enwebiadau.

Alfred Nobel, y dyn ddyfeisiodd ddeinameit, sefydlodd y wobr a gafodd ei chyflwyno gyntaf yn 1901.




HEFYD:
Cryn gystadlu am fisas
06 Gorff 04  |  Newyddion
Cyrraedd Llangollen - o'r diwedd
08 Gorff 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^