BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Hydref, 2004, 14:44 GMT 15:44 UK
Protest iaith yn targedu siopau
poster  Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Roedd banc Abbey yn un gafodd ei dargedu
Nos Fercher gorchuddiodd ymgyrchwyr iaith ffenestri busnesau â sticeri yn Aberystwyth.

Nod aelodau Cymdeithas yr Iaith oedd tynnu sylw at ddiffyg Cymraeg ar y siopau fel rhan o'u hymgyrch am ddeddf iaith.

Cafodd 40 o gwmnïau preifat eu targedu, banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai a siopau cadwyn, a chafodd sticeri â'r geiriau Ble mae'r Gymraeg? eu glynu at ffenestri.

Dywedodd siambr fasnach y dref fod hyn "yn gam yn rhy bell".

Ymhlith y cwmnïau gafodd eu targedu roedd Woolworths, Burger King, Wetherspoons, Spar, Halifax ac Abbey.

"Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith ddechrau ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ail-godi'r angen am Ddeddf Iaith Newydd," meddai Rhys Llwyd o'r Gymdeithas.

ffenest cwmni teithio
Fore Iau roedd nifer o weithwyr y siopau yn crafu'r sticeri i ffwrdd

"Dro ar ôl tro mae cwmnïau a sefydliadau yn dal i wrthod cynnig y mwyafrif o'u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg.

"Ni fydd hyn yn newid hyd nes bod deddf iaith newydd."

Dywedodd y mudiad y byddai'n targedu cwmnïau mewn trefi trwy Gymru "er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993".

"Os na fyddwn yn wynebu'r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u bywydau bob dydd," meddai Rhys Llwyd.

Dywedodd Hedd Gwynfor, is-gadeirydd cyfathrebu'r Gymdeithas, y bydden nhw'n cynnal Fforwm Cenedlaethol dros Ddeddf Iaith yn Aberystwyth ar Chwefror 26.

Rydyn ni'n byw yng Nghymru a dylai'r iaith gael ei chynrychioli'n deg
Monica Sciacca, ysgrifennydd siambr fasnach Aberystwyth

"Ein nod yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan," meddai.

"Targedon nhw yn bennaf siopau â'u pencadlysoedd yn Lloegr," meddai Monica Sciacca, ysgrifennydd siambr fasnach Aberystwyth.

"Mae sticeri ar tua 80% o'r siopau. Mae hon yn weithred ddrastig a byddai'n well 'sen nhw wedi cysylltu â rheolwyr y siopau neu trafod â'r prif swyddfeydd.

'Rhy bell'

"Roedd hwn yn gam yn rhy bell."

Dywedodd ei bod, serch hynny, yn cytuno â nod y brotest.

"Rydyn ni'n byw yng Nghymru a dylai'r iaith gael ei chynrychioli'n deg," meddai, "ond gallai'r brotest fod wedi bod yn fwy proffesiynol."

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn wedi cael ei arestio ac wedi cael rhybudd.




HEFYD:
Ofcom i edrych ar orsaf radio
26 Medi 04  |  Newyddion
Archfarchnad i werthu cig Cymreig
01 Medi 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^