Carreg filltir: Neuadd Pantycelyn
|
Mae neuadd breswyl Gymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi dathlu ei phen-blwydd 30-oed dros y Sul.
Nos Sadwrn roedd rhai o gyn-breswylwyr neuadd Pantycelyn, Mynediad am Ddim a Neil Rosser, yn perfformio mewn dawns yn Undeb y Myfyrwyr.
Roedd y cyfan o dan arweinyddiaeth cyn-fyfyriwr arall, Dafydd Du, cyflwynydd BBC Radio Cymru.
Ers ei sefydlu, bu Pantycelyn yn gartref i dros 3,500 o fyfyrwyr, gan gynnwys nifer sy'n enwog yng Nghymru a thu hwnt.
Ffurfiwyd grwpiau fel Mynediad am Ddim, Doctor, Chwarter i Un, Y Trwynau Coch, Eryr Wen, Siencyn Trempyn, Harri go Ffes, Arfer Anfad a Chouchen ym Mhantycelyn.
Bu Dr John Davies, hanesydd ac awdur y gyfrol Hanes Cymru, yn warden neuadd am 18 mlynedd a bu ei gyfraniad i fywyd a datblygiad y neuadd yn bwysig.
Bu myfyrwyr Aberysywth yn protestio dros addysg Gymraeg
|
Daeth nifer o benaethiaid yn enwau cyfarwydd, gan gynnwys yr actor a'r diddanwr, Emyr Wyn, pennaeth cyntaf y neuadd yn 1974.
"Mae Pantycelyn yn neuadd gymdeithasol, cymuned glos sydd fel un teulu mawr," meddai Alan Edwards, warden y neuadd.
"Enghraifft o hyn yw'r dathliad sy'n dangos y cyswllt cryf rhwng cyn-fyfyrwyr a'r neuadd.
"Mae'n sefydliad cryf a'r cyfnod y mae rhywun yn treulio yno'n aros yn y cof.
Cyfrannu
"Ac mae'r myfyrwyr wedi ac yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol a thu hwnt, megis llwyddiannau yn yr Ŵyl Gerdd Dant a'r Eisteddfod Ryng-golegol eleni.
"A dweud y gwir, mae'n gymdeithas ifanc sydd wedi cyfrannu'n helaeth at fywyd diwylliannol, artistig a gwleidyddol Cymru."
Dros y Sul roedd UMCA yn dathlu 30 mlynedd.
Mae cyn-lywyddion UMCA yn cynnwys Dafydd Trystan, prif weithredwr Plaid Cymru, a Rhuanedd Richards, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru.