Mae rhai eisiau i aelodau'r cynulliad ymyrryd
|
Galwyd ar y dyn sy'n gofalu fod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gywir yng Nghymru i gynnal ymchwiliad i Brifysgol Cymru Abertawe.
Nos Iau mi fydd rhaglen BBC Cymru Dragon's Eye yn rhoi sylw i honiadau fod hyd at £1m wedi ei wario ar ysgol fusnes newydd - er yr honnir na chafodd hyn ei gymeradwyo gan y bwrdd llywodraethol.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y brifysgol fod pum adran yn mynd i beidio dysgu is raddedigion.
Dywed rheolau'r brifysgol na cheir sefydlu proffesoriaethau nac ysgolion heb gytundeb y bwrdd llywodraethol.
Ond mae tri aelod o'r pwyllgor hwnnw wedi dweud wrth Dragon's Eye na thrafodwyd canolfan newydd ar gyfer busnes ac economeg yn eu cyfarfodydd.
Mae Is-ganghellor Prifysgol Cymru Abertawe, Richard Davies, wedi gwrthod gwneud sylwadau ar yr honiad yma.
Ond mae'r rhai sy'n feirniadol ohono eisiau i aelodau'r cynulliad ymyrryd.
Ac mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu bod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddefnydd o arian cyhoeddus yn y brifysgol.