Mae papur Y Byd yn chwilio am danysgrifwyr
|
Bedair blynedd ers i'r syniad gael ei wyntyllu i sefydlu papur newydd Cymraeg nid oes safle wedi ei ddewis fel pencadlys ar gyfer y cwmni, a dyw'r gwaith o benodi staff ar gyfer y papur heb ddechrau.
Dyna ddywedodd rhaglen materion cyfoes BBC Cymru Taro Naw wrth godi cwestiynau am gynlluniau i sefydlu y Byd.
Ychwanegwyd nad oes dyddiad penodol wedi'i bennu ar gyfer cyhoeddi'r rhifyn cyntaf.
Un o'r rhai sydd wedi dangos diddordeb yn nghynlluniau'r Byd yw Rob Jones, golygydd papur newydd wythnosol y Cymro.
"Am ddwy flynedd bydd gan y Byd grantiau ac yn y blaen," meddai Mr Jones.
"Wedi'r ddwy flynedd, os bydd y Byd wedi mynd i'r wal a nhwythau wedi cymryd ein busnes ni eisoes, efallai na fydd posibilrwydd o ennill y rhain yn ôl wedi i hyn ddigwydd.
 |
Y gobaith yw cael y rhifyn cyntaf allan yn ystod 2005, dyma'r targed rydan ni'n gosod i'n hunain
|
"Pe ai'r Byd wedi mynd i'r wal byddai hyn wedi effeithio ar hygrededd yn y maes [cyhoeddi papurau newydd Cymraeg]."
Ond yn ôl Ned Thomas, un o gyfarwyddwyr y Byd, mae'r cynlluniau ar gyfer cyhoeddi'r papur yn parhau.
"Rydyn ni wedi bod yn dweud 'ar y ffordd' ers sbel; dydw i ddim yn hoffi clymu fy hunan i ddyddiad pendant," meddai Mr Thoms.
"Ond [mae'n gobeithio cyhoeddi'r rhifyn cyntaf] rhywbryd y flwyddyn nesaf - gorau po gyntaf."
Mae Elin Haf Gruffydd Jones, un o gyfarwyddwyr y Byd, yn dweud bod y papur yn brosiect uchelgeisiol.
"Mae'n brosiect newydd ac yn brosiect mawr, rydyn ni wedi codi dau draean o'r cyfalaf oedden ni'n dymuno ei godi gan fuddsoddwyr," meddai Ms Jones.
"Dydan ni ddim yn teimlo ein bod wedi cyrraedd pen y daith - rydan ni'n dal wrthi.
"Y gobaith yw cael y rhifyn cyntaf allan yn ystod 2005, dyma'r targed rydan ni'n gosod i'n hunain."
Gobaith Y Byd yw cael cylchrediad sydd rhwng 10,000 a 12,000 dros gyfnod o ddwy neu dair mlynedd er mwyn talu am ei hun.
Mae'n fwriad hefyd ceisio denu 5,000 o danysgrifwyr.