BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Medi, 2004, 18:56 GMT 19:56 UK
Baneri'n gwerthu dros y byd
Straeon Glyndŵr
Coroni Owain Glyndŵr

Baneri Owain Glyndŵr yw rhai o'r eitemau sy'n gwerthu orau ar wefan sy'n gwerthu nwyddau Cymreig.

Sefydlodd Brinley Williams, 42, o Gasnewydd y wefan wedi iddo golli ei waith.

Erbyn hyn mae'n gwerthu tua 1,000 o wahanol eitemau dros y byd.

Dechreuodd www.thewelshshop.com ddwy flynedd yn l wedi iddo golli ei waith fel datblygwr meddalwedd NTL.

Cafodd y syniad wedi iddo ganfod cyn lleied o nwyddau Cymreig oedd yn cael eu gwerthu ar y we o'i gymharu nwyddau Gwyddelig.

Arfbais Glyndŵr
Mae baneri Glyndŵr i'w gweld mewn gwestai a thafarndai

Mae'r safle'n gwerthu popeth o gylch allweddi am 2 i emwaith yn costio 450.

Ac mae'n gwerthu llwyau caru, lampau glowyr a baneri.

Yn l Mr Williams, mae baneri Owain Glyndwr yn gwerthu'n well na hyd yn oed y Ddraig Goch.

"Mae pawb i'w gweld eisiau'r baneri yma ar hyn o bryd," meddai. "Maen nhw wrth eu boddau efo nhw.

"Dechreuodd y galw yn America ond erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r archebion o Gymru a Lloegr, gan gynnwys llawer o dafarndai a gwestai."

Mae Mr Williams yn gobeithio datblygu dillad Cymreig dan yr enw Dragon Power.

Yn ddiweddar, roedd ei gwmni ar restr fer Gwobrau E-fasnach Cymru sy'n cael eu noddi gan Lywodraeth y Cynulliad.

"Yn wreiddiol, y syniad oedd treulio pedair blynedd i sefydlu'r busnes," meddai Mr Williams.

"Felly rwy'n hapus iawn sut mae pethau wedi mynd."




HEFYD:
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04 |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04 |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03 |  Newyddion
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^