BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai, 2004, 16:40 GMT 17:40 UK
Gwerthiant da i'r Beibl newydd
Y Beibl Cymraeg
Hwn yw'r Beibl Cymraeg cyntaf ers 1988

Mae pob copi o'r Beibl Cymraeg Newydd a gyhoeddwyd saith wythnos yn l wedi eu gwerthu.

Argraffwyd 6,000 copi o'r Beibl a bu'r gwerthiant ohono'n fwy na'r disgwyl.

Mae Cymdeithas y Beibl wedi dechrau ei ailargraffu.

Derbyniodd pob aelod o'r Cynulliad gopi o'r Beibl Cymraeg Newydd mewn cyflwyniad arbennig a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Beibl yng Nghaerdydd wedi iddo gael ei gyhoeddi fis Chwefror diwethaf, "er mwyn cydnabod gwerth diwylliannol a chrefyddol yr argraffiad newydd".

"Derbyniodd y Beibl Cymraeg Newydd groeso brwd a adlewyrchir yn y gwerthiant uwch na'r disgwyl a fu arno," meddai Arfon Jones o Gobaith i Gymru.

"Mae'n fwy cyson ac yn fwy cywir ac yn arf gwell i astudio'r Beibl.

Rhannu'r efengyl

"Ein gobaith a'n gweddi yw y bydd yn ennyn diddordeb newydd yng Ngair Duw ac yn gymorth i Gristnogion rannu'r efengyl yn fwy effeithiol."

Cyfieithwyd y Beibl Cymraeg cyntaf gan yr Esgob William Morgan a'i gwblhau yn 1588.

Argraffwyd y Beibl Cymraeg Newydd 400 mlynedd yn ddiweddarach yn 1988.

Mae'r cyhoeddi yn digwydd yr un adeg dathliadau deucanmlwyddiant Cymdeithas y Beibl yn 2004 - cymdeithas sydd 'i gwreiddiau yng Nghymru.

Bu hanes y ferch ifanc Mari Jones yn ysbrydoliaeth i ffurfio Cymdeithas y Beibl 200 mlynedd yn l.

Cynilodd ei harian am flynyddoedd a cherddodd dros 25 milltir i'r dref agosaf lle clywodd fod ychydig o gopau o'r Beibl ar gael yn y Gymraeg.

Mae'r gwerthiant sylweddol i'r Beibl Newydd Cymraeg yn dangos bod yr angen a'r dymuniad yn parhau am fersiwn Cymraeg, medd y cyhoeddwyr.




HEFYD:
Lansio Beibl Cymraeg newydd
29 Chwef 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^