Mae'r myfyrwyr yn anhapus â'r ddarpariaeth yn Gymraeg
|
Mae dros 100 o fyfyrwyr wedi bod yn protestio yn Aberystwyth ddydd Gwener yn galw am goleg ffederal Cymraeg.
Hefyd mae'r myfyrwyr yn cwyno am yr hyn maen nhw'n gweld fel diffyg darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn y coleg.
Dyma eu seithfed protest mewn 10 mis.
Dywed y myfyrwyr eu bod wedi rhoi gwahoddiad i gynrychiolydd o'r coleg i siarad ond na ddaeth neb.
Yn ôl y myfyrwyr, maen nhw'n "galw ar i'r is-gangellorion yn y colegau yng Nghymru i gymryd cyfrifoldeb dros addysg Gymraeg".
"Mae'n holl bwysig fod Jane Davidson yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch," meddai Catrin Dafydd, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth 2003-2004.
'Rhaid cael Coleg Ffederal Cymraeg'
|
"Mae cannoedd o fyfyrwyr yn dal i ddod ar brotestiadau ac yn dyst i'r anghyfiawnder," ychwanegodd.
Mae'r myfyrwyr "yn herio'r is-ganghellor Derec Llwyd Morgan ac yn galw ar i Noel Lloyd, y prifathro newydd, wneud ymrwymiadau i addysg Gymraeg".
"Mae'r strwythur presennol yn annigonol ac mae ein cŵyn ni heddiw yn brawf o hyn," ychwanegodd Ms Dafydd.
"Ni fydd y myfyrwyr yn tewi hyd nes y cawn ni Goleg Ffederal Cymraeg."
Yn ôl y myfyrwyr, mae'r Athro Morgan wedi addo swm o arian ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg.
Hon yw'r seithfed brotest
|
Maen nhw'n siomedig nad ydy'r gronfa wedi gallu cael ei sefydlu'n gynt fel y gallai gael ei ddefnyddio i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Ni allwn fel myfyrwyr ddibynnu ar ambell gyfraniad pitw tuag at addysg Gymraeg.
"Rydyn ni'n haeddu strwythur cadarn a pharch i'r iaith ar lefel academaidd.
"Gyda'r adran addysg mewn argyfwng a thargedau'r Cynllun Iaith yn cael eu torri, mae myfyrwyr yn anniddig," ychwanegodd.
"Mae'r sefyllfa ym Mhrifysgol Cymru yn gyfan gwbl warthus. Mae hyn yn brawf concrit i'r Gweinidog Addysg, Jane Davidson fod yn rhaid cael Coleg Ffederal Cymraeg," ychwanegodd Osian Rhys, llywydd UMCA 2004-2005.