BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 26 Medi, 2004, 14:03 GMT 15:03 UK
Ofcom i edrych ar orsaf radio
Pencadlys Radio Sir Gâr
Mae Radio Sir Gâr yn darlledu o Narberth yn Sir Benfro

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall y bydd Ofcom yn ystyried yr hyn a honnir yw diffyg Cymraeg ar orsaf radio ddiweddara Cymru.

Mae'r corff sy'n arolygu'r cyfryngau, Ofcom, wedi derbyn nifer o gwynion am faint o Saesneg sy'n cael ei ddarlledu ar orsaf Radio Sir Gâr.

Yn ôl ymgyrchwyr iaith, mae'r orsaf yn trin y Gymraeg mewn modd sarhaus ac yn torri amodau pendant a gafodd eu gwneud pan enillodd yr orsaf y drwydded i ddarlledu.

Ond mae'r orsaf yn gwadu'r cyhuddiadau'n llwyr.

Dydi Radio Sir Gâr ddim yn cyfateb o gwbl i'r cynnig a wnaethpwyd am y drwydded ac felly dydy'r drwydded ddim yn ddilys
Rhodri Glyn Thomas, AC

Honnir bod yr orsaf, sy'n darlledu ers tri mis, wedi torri addewidion a wnaed pan wnaethon nhw ennill eu trwydded darlledu.

Os oes 'na sail i'r cwynion, yna fe allai Ofcom orchymyn bod yr orsaf yn talu dirwy, neu'n colli'r drwydded.

Cafodd Gorsaf Radio Sir Gâr ei sefydlu ym mis Medi 2003 ar ôl cystadleuaeth boeth am y drwydded ac o'r pencadlys yn Narberth. Sir Benfro, mae'r orsaf yn darlledu am 24 awr y dydd.

Yr addewid oedd ac ydi "gorsaf leol i bobl leol" mewn sir lle mae 64% o'r trigolion lleol yn medru'r Gymraeg.

Mae nifer yn credu nad ydi'r gwasanaeth yn adlewyrchu dymuniadau na blaenoriaethau'r cymunedau y mae'r orsaf i fod i'w wasanaethu.

"Mae'r caneuon i gyd yn Saesneg, yr hysbysebion yn Saesneg a'r newyddion yn Saesneg ac yn Seisnig gydag ambell i funud yn Gymraeg ar y diwedd," meddai Heledd Gwyndaf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rhaglenni Cymraeg

Dywedodd Iwan Evans o Fenter Iaith Taf Myrddin nad ydyn nhw'n cynnwys unrhyw gerddoriaeth Gymraeg ar yr orsaf.

"Mae'n amlwg nad oes ganddyn nhw ddim diddordeb i gynnwys bandiau Cymraeg na bandiau lleol.

"Maen nhw'n dweud bod y cyflwynwyr i gyd yn ddwyieithog, hynny yw maen nhw'n gallu dweud 'bore da' - dyna ystyr siarad Cymraeg i'r cyflwynwyr."

Cyn ennill trwydded darlledu mae'n rhaid i bob cwmni sydd am sefydlu gwasanaeth radio masnachol gynnig cyfres o addewidion sy'n amlinellu'r math o wasanaeth y maen nhw'n bwriadu ei gynnig.

Radio Sir Gâr
Mae nifer o gwynion wedi cael eu gwneud yn erbyn yr orsaf
Mae'r ddogfen sy'n cynnwys addewidion Radio Sir Gâr yn dweud o ran y Gymraeg eu bod yn "ymrwymo'r sianel i ddarparu gwasanaeth rhesymol yn y Gymraeg drwy gydol yr wythnos".

Mae'r ddogfen yn nodi rhaglenni penodol Cymraeg i'w darlledu gan gynnwys 'Cŵl Cymru' sy'n rhoi llwyfan i fandiau newydd o Gymru a rhaglen dwy awr Gymraeg i'w darlledu gyda'r hwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener.

"Fydden ni ddim yn dweud bod y rhaglen gyda'r nos yn Gymraeg," meddai Ms Gwyndaf.

"Amserwyd y rhaglen a dim ond wyth munud o'r tair awr oedd yn Gymraeg un noson."

Mae'r ffrae erbyn hyn wedi cyrraedd y gwleidyddion.

Yn ôl yr AC lleol, Rhodri Glyn Thomas, dydy addewidion gwreiddiol yr orsaf ddim wedi eu hanrhydeddu.

Dadl

"Mae'r cynnig a wnaethpwyd am y drwydded yn gwbwl amherthnasol i'r rhaglenni sy'n cael eu darlledu ar hyn o bryd.

"Dydi Radio Sir Gâr ddim yn cyfateb o gwbl i'r cynnig a wnaethpwyd am y drwydded ac felly dydy'r drwydded ddim yn ddilys."

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod Adam Price, yr AS lleol, yn bwriadu cysylltu gyda'r adran dreftadaeth yn Llundain er mwyn gweld beth yw pŵer Ofcom mewn sefyllfa o'r fath.

Keri Jones yw pennaeth yr orsaf ac mae'n mynnu nad yw'r orsaf wedi torri unrhyw amodau.

Mae'n pwysleisio bod y ddarpariaeth i gymuned ddwyieithog yn un dda ac mae'n cyhuddo ei feirniaid o greu tystiolaeth er mwyn cynnal eu dadleuon.

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal protest ym mhencadlys yr orsaf ym mis Gorffennaf ac fe ddisgrifiodd Mr Jones y protestwyr fel "terfysgwyr iaith."

Er hynny dydi Mr Jones ddim yn fodlon trafod y mater gyda'i feirniaid gwleidyddol chwaith.

"Fe wnes i ofyn am gyfarfod gyda Keri Jones ac fe anwybyddodd y cais yn llwyr," meddai Mr Thomas.

"Fe wnes i sgwennu ato yn dweud os ydach chi'n gwrthod cyfarfod fe fydd rhad i mi dderbyn y cwynion a'r feirniadaeth sydd wedi eu cyflwyno i mi ac fe es i a nhw at Ofcom."

Gwrthod cael ei gyfweld gyda BBC Cymru wnaeth Mr Jones hefyd.

Mae'r ddwy ochr yn credu eu bod yn iawn ac mae'r sefyllfa yn gadael y rheolydd newydd, Ofcom, yn y canol.




HEFYD:
Rhyddhau aelodau Cymdeithas yr Iaith
25 Gorff 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^